Mwy diogel yn 20

20mph Speed Limits

Y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru yw 20mya.

Mae'r rhain yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi eu gosod hyd at 200 llath ar wahân.

Arhosodd rhai ffyrdd ar 30mya, yn seiliedig ar feini prawf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn dilyn ymgynghori lleol.

Gallwch weld y rhestr o eithriadau 30mya yma.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru bellach yn adolygu'r canllawiau terfyn cyflymder a ddarperir i awdurdodau lleol, a allai olygu bod y terfyn cyflymder a bennwyd ar gyfer rhai ffyrdd yn cael ei addasu. 

Mae disgwyl i'r canllawiau newydd gael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni. 

Disgwylir i'r broses o addasu unrhyw derfynau cyflymder yng Nghymru ddechrau o fis Medi, ond bydd hyn yn ddibynnol ar gyllid, adnoddau a chwblhau proses ymgynghori statudol. 

Bydd unrhyw ohebiaeth a dderbynnir yn cael ei chofnodi cyn i'r broses ddechrau a'i hystyried yn unol â'r canllawiau newydd.

Os ydych chi'n credu y dylid cynyddu neu ostwng terfyn cyflymder ar ffordd yn Nhorfaen, cysylltwch ar 20mphenquiries@torfaen.gov.uk gan esbonio'r rhesymau dros y newid. 

Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid y terfyn 20mya diofyn newydd, felly ni ystyrir unrhyw geisiadau i gael gwared arno’n gyffredinol.

Cyflwynwyd y terfyn cyflymder diofyn newydd i wneud ffyrdd yn fwy diogel, lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, annog mwy o bobl i gerdded a beicio, gwella iechyd a lles ac i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Diwygiwyd Diwethaf: 06/06/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Ebost: 20mphenquiries@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig