Cwestiynau Cyffredin

20mph Speed Limits

A yw'r cyfyngiad cyflymder o 20mya yn Nhorfaen yn cael ei adolygu?

Does dim cynlluniau i newid y cyfyngiad cyflymder diofyn yng Nghymru, ond mae canllawiau newydd a gyhoeddwyd i awdurdodau lleol y llynedd wedi golygu y gallai mwy o ffyrdd gael eu heithrio.

Yn Nhorfaen, rhoddwyd 36 eithriad ar waith a allai gynyddu i 44 o dan gynigion diwygiedig i gynnwys: 

  • Newport Road, Cwmbrân (rhan) 
  • Estate Road, Blaenavon (gan gynnwys Ystâd Ddiwydiannol Gilchrist Thomas)  
  • Yr A4043 i’r gogledd o Bont-y-pŵl tuag at Abersychan (rhan) 
  • New Road, rhwng Tref Gruffydd a’r Dafarn Newydd (rhan) 
  • Usk Road, Y Dafarn Newydd (rhan) 
  • Riverside, Pont-y-pŵl 
  • Turnpike Road, Llanyrafon (rhan)
  • B4236 Caerleon Road (rhan) – darn 40mya 

Bydd Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn cael eu cynhyrchu ar gyfer pob ffordd, sy'n broses gyfreithiol y mae'n rhaid i gynghorau ei dilyn i newid unrhyw gyfyngiad cyflymder. Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi’n lleol, ar wefan y cyngor ac yn y wasg leol.

Bydd pob GRhT yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'n ofynnol i'r cyngor ystyried unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau cyn gweithredu unrhyw newidiadau. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriadau statudol, dylid cwblhau'r gwaith i weithredu'r newidiadau erbyn diwedd gwanwyn 2025. 

A fydd yn rhaid i'r cyngor dalu am gyflwyno unrhyw derfynau cyflymder newydd?

Na, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ariannu'r gost o addasu unrhyw derfynau cyflymder yn yr un ffordd ag y talodd am gost cyflwyno'r 20mya diofyn.

A fyddaf yn dal i gael dirwy os na fyddaf yn cadw at y terfyn newydd?

Mae GoSafe a phartneriaid yr heddlu yn defnyddio cyfuniad o waith ymgysylltu a gorfodi.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan GoSafe

Sut ydw i'n gwybod a yw ffordd yn 20mya?

Os ydych yn gyrru mewn ardal breswyl neu adeiledig, a bod goleuadau stryd yno, gyrrwch ar 20mya oni bai eich bod yn gweld arwydd yn dweud fel arall.

Mae arwyddion cyflymder wrth gychwyn i mewn i ardal, yn arwyddion mwy a welir wrth i chi fynd i mewn i ardal sydd â gwahanol derfyn cyflymder, i ddangos y cyflymder cywir yn glir.

Ni chaniateir arwyddion ailadroddus mwyach, sef yr arwyddion cylch bach a welir yn aml ar oleuadau stryd, ar ffyrdd lle mae'r terfyn cyflymder diofyn yn 20mya.  

Mewn unrhyw ardaloedd 20mya heb oleuadau stryd, mae arwyddion ychwanegol i nodi'r terfyn cyflymder.

Pam y newidiwyd y terfyn cyflymder diofyn? 

Cyflwynwyd y terfyn cyflymder 20mya diofyn newydd ym mis Medi 20203, i wneud ffyrdd yn fwy diogel, lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, annog mwy o bobl i gerdded a beicio, gwella iechyd a lles ac i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Pa effaith mae'r terfyn cyflymder newydd wedi'i gael? 

Mae data cynnar a gyhoeddwyd gan Drafnidiaeth Cymru ym mis Chwefror 2024 yn dangos bod cyflymderau wedi gostwng 4mya ar gyfartaledd ers cyflwyno'r cynllun cenedlaethol..

Mae'r monitro'n parhau a chyhoeddir y canlyniadau pan fyddant ar gael. 

Diwygiwyd Diwethaf: 17/01/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Ebost: 20mphenquiries@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig