Peirianneg Diogelwch ar y Ffyrdd
Grŵp Priffyrdd Cyngor Torfaen sy’n gyfrifol am y rhwydwaith o ffyrdd a fabwysiadwyd gan y sir, ac eithrio’r cefnffyrdd, sy’n cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru. Mae yna ambell i ffordd hefyd nad yw’r Cyngor wedi ei mabwysiadu am amrywiol resymau ac mae’r perchnogion preifat yn parhau i fod yn gyfrifol am y rhain. Mae yna sawl grŵp o fewn Priffyrdd sy’n cwmpasu agweddau gwahanol, er enghraifft adeiladu ffyrdd newydd, gwelliannau a chynnal a chadw.
Grŵp Priffyrdd, Traffig a Pheirianneg (HTE Group) sy’n rheoli bron pob agwedd ar beirianneg a mesurau diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer y rhwydwaith o ffyrdd lleol sydd eisoes yn bodoli. Mae’r Awdurdod yn monitro safleoedd ble mae anafiadau a gwrthdrawiadau sy’n achosi anafiadau personol wedi cael eu cofnodi, ac yn eu dadansoddi a’u hadnabod ac yna mae’n ystyried pa fesurau diogelwch ar y ffyrdd fyddai’n briodol i drin y safleoedd hyn, os ydyw am gyflwyno mesurau.
Ble mae safleoedd wedi cael eu nodi fel rhai a allai fod angen mesurau diogelwch ar y ffyrdd, bydd yr Awdurdod yn llunio cynlluniau diogelwch ar y ffyrdd ac yn eu gweithredu, pan fydd cyllid ar gael neu fel rhan o unrhyw gais am gyllid.
Mae’r Grŵp Priffyrdd, Traffig a Pheirianneg yn cael ceisiadau rheolaidd am fesurau diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys, er enghraifft, mesurau tawelu traffig a therfynau cyflymder is. Caiff pob cais ei asesu a’i flaenoriaethu ar sail nifer o ffactorau, er enghraifft cyflymder cerbydau, cyflwr/cynllun y briffordd a ffactorau lleol sy’n denu pobl, ond y ddau brif ffactor yw gostwng gwrthdrawiadau ac anafiadau. Defnyddir proses asesu drylwyr sy’n seiliedig ar dystiolaeth ymhob achos, er mwyn meintoli, cymharu, pennu ac, os yn briodol, blaenoriaethu ceisiadau a’r safleoedd hynny lle gwelwyd gwrthdrawiadau yn flaenorol, er mwyn cyflwyno mesurau.
Gwybodaeth am Gefnffyrdd
Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) sy’n rheoli’r rhwydwaith o gefnffyrdd ar ran Llywodraeth Cymru. Gellir cael hyd i fanylion y rhwydwaith o gefnffyrdd ac mae gwybodaeth ynghylch gwaith cynnal a chadw/traffig ar gefnffyrdd ar www.traffic.wales
Diwygiwyd Diwethaf: 06/06/2024
Nôl i’r Brig