Gorfodi Diogelwch ar y Ffyrdd
Yn bennaf, daw hyn o fewn cylch gwaith Heddlu Gwent. Mae Grŵp Priffyrdd, Traffig a Pheirianneg Cyngor Torfaen yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gwent a phan yn bosib rydym yn ymdrechu i’w cefnogi ac i weithio mewn partneriaeth â nhw i gyflawni’n cydamcanion.
Fel yr Awdurdod Priffyrdd swyddogol ar gyfer y sir, mae gan y Cyngor yr awdurdod i bennu’r terfynau cyflymder a materion eraill sy’n ymwneud â phriffyrdd, fel gorchmynion rheoleiddio traffig parhaol/dros dro, arwyddion ar briffyrdd a marcio cerbytffyrdd, materion parcio cyffredinol ayb. Caiff y rhain eu cyflawni yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’r rhwydwaith priffyrdd. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae unrhyw bryderon ynghylch gorfodi rheoliadau cyffredinol priffyrdd sydd eisoes ar waith, yn fater i Heddlu Gwent sydd eisoes â phwerau i ddelio â’r materion hyn e.e. parcio mewn ffordd anghyfreithlon neu mewn ffordd sy’n rhwystro eraill.
Camerâu Diogelwch
Caiff y camerâu diogelwch ar yr holl ffyrdd sydd wedi’u mabwysiadu yng Nghymru eu rheoli gan 'Gan Bwyll', sef Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru. Ar wefan Gan Bwyll cewch wybodaeth gynhwysfawr ar yr holl faterion sy’n ymwneud â chamerâu diogelwch a’r defnydd ohonynt.
Diwygiwyd Diwethaf: 06/06/2024
Nôl i’r Brig