Bathodynnau Glas ar gyfer sefydliadau
Caiff sefydliad ei ddiffinio mewn deddfwriaeth fel “Sefydliad sy'n ymwneud â gofalu am unigolion anabl y mae modd rhoi bathodyn unigolyn anabl ar eu cyfer”.
Bydd bathodynnau sefydliadol dim ond yn cael eu rhoi felly i sefydliad sy'n:
- Cludo a gofalu am bobl anabl sy'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwyster ar gyfer bathodyn glas unigol
- Ac sydd ag angen clir am fathodyn sefydliadol yn hytrach na defnyddio bathodynnau glas unigol y bobl y mae'n eu cludo
Dylai'r bobl anabl o dan ofal y sefydliad fodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwyster canlynol am fathodyn glas:
- Cael Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl
- Cael yr Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
- Yn gymwys i gael cerbyd wedi'i addasu a gynorthwyir gan grant arbennig
- Wedi'u cofrestru'n ddall
- Bod ag anabledd parhaol a sylweddol ac na allant gerdded neu sy'n cael anhawster sylweddol wrth gerdded
Lle mae nifer gymharol fach o bobl yn bodloni'r meini prawf cymhwyster am fathodyn sefydliadol, byddai'n well i'r unigolyn neu unigolion anabl ymgeisio am y bathodynnau, yn hytrach na rhoi un bathodyn i sefydliad. Mae hyn felly yn caniatáu i'r deiliad ddefnyddio'r bathodyn mewn unrhyw gerbyd y mae'n teithio ynddo.
Caiff bathodyn ei roi i sefydliad os oes ganddo gerbydau wedi'u trwyddedu o dan y dosbarth treth Teithiwr Anabl (DPV). Mae'n annhebygol y byddai tacsi neu weithredwr cerbydau preifat a gweithredwyr cludiant cymunedol yn gymwys am fathodyn glas sefydliadol, gan nad ydynt yn ymwneud fel arfer â gofalu am bobl anabl a fyddai'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwyster.
Caiff bathodynnau eu rhoi i'r sefydliad neu adran ac nid i unigolion a enwir.
Gallwch wneud cais trwy ddefnyddio'r Ffurflen Bathodyn Glas Sefydliadol.
Er mwyn prosesu eich cais, bydd arnom angen y canlynol:
- Copi o'ch eithriad treth mewn perthynas â DPV neu lythyr o gadarnhad gan y DVLA (os yn gymwys)
- Copi o logo'r cwmni (caiff ei drosglwyddo i'r bathodyn)
- Ffi weinyddu o £10.00 - ni allwn ad-dalu hyn
Diwygiwyd Diwethaf: 12/03/2024
Nôl i’r Brig