Cynllun Bathodynnau Glas

Trosolwg

Mae'r cynllun Bathodyn Glas yn galluogi pobl sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth trwy wella'u mynediad at wasanaethau a chyfleusterau. Gallan nhw fod yn yrrwr neu'n deithiwr.

Does dim rhaid bod rhywun yn gallu gyrru er mwyn gwneud cais am Fathodyn Glas. Mae'r bathodyn ar gyfer yr unigolyn a gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gar pan fo'r unigolyn hwnnw'n deithiwr.

Cymhwystra

Cyn i chi wneud cais am Fathodyn Glas, gwiriwch a ydych chi'n gymwys ai peidio​.  

Rhaid i chi brofi'ch cymhwystra, does dim gwahaniaeth os ydych chi’n ceisio am Fathodyn Glas am y tro cyntaf neu'n adnewyddu eich Bathodyn Glas.

Peidiwch â gwneud cais i adnewyddu eich Bathodyn Glas yn gynharach na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae'ch Bathodyn Glas yn dod i ben.

Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas ar-lein, neu, fel arall, gall rhywun lenwi'r ffurflen ar-lein ar eich rhan.

Bydd gofyn i chi ddarparu ffotograff neu sgan er mwyn:

  • profi pwy ydych chi (er enghraifft tystysgrif geni, pasbort, trwydded yrru neu docyn bws)
  • profi'ch cyfeiriad, wedi'i ddyddio yn y 12 mis diwethaf (er enghraifft bil treth gyngor, llythyr budd-daliadau neu fil cyfleustodau)
  • profi cymhwystra os ydych yn gwneud cais o dan gymhwystra awtomatig
  • profi'ch cyflwr meddygol a sut y mae'n effeithio ar eich symudedd os ydych yn gwneud cais o dan gymhwystra yn ôl disgresiwn

 Bydd gofyn i chi hefyd roi: 

  • eich Rhif Yswiriant Gwladol (os oes un gennych)
  • manylion y Bathodyn Glas sydd gennych ar hyn o bryd (os ydych chi'n adnewyddu)
  • ffotograff diweddar tebyg i lun pasbort.  Gallwch chi dynnu'r ffotograff, ond rhaid ei fod wedi cael ei dynnu yn y 3 mis diwethaf.  Dydyn ni DDIM yn gallu derbyn ffotograffau gydag unrhyw fath o ffilter neu ffotograffau sydd wedi eu gwella neu newid mewn unrhyw ffordd.

Gwneud cais am Fathodyn Glas

Fel arall, gallwch drefnu apwyntiad yn un o'n Canolfannau Gofal Cwsmeriaid.

Bathodynnau sydd wedi cael eu Colli/Dwyn

Ydy'ch Bathodyn Glas chi wedi cael ei golli neu ei ddwyn? Codir ffi weinyddol o £10 am fathodynnau newydd yn lle rhai sydd wedi cael eu colli neu ddifrodi.

Rhoi gwybod am Fathodyn Glas sydd wedi cael ei golli neu ei ddwyn

Twyll neu gamddefnyddio Bathodyn Glas

Os ydych chi'n amau bod Bathodyn Glas yn cael ei gamddefnyddio, gallwch roi gwybod i ni.

Ceisiwch gael cymaint o fanylion â phosibl o'r Bathodyn sy'n cael ei arddangos (rhif cyfresol, dyddiad dod i ben ayb.) i'n helpu i ymchwilio a chymryd camau os dangosir bod y Bathodyn wedi cael ei gamddefnyddio.

Rhoi gwybod am gamddefnyddio Bathodyn Glas

Diwygiwyd Diwethaf: 17/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig