Cynlluniau Teithio Llesol ar gyfer ysgolion

Rydym yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu Cynlluniau Teithio Llesol ar eu cyfer.

Bydd y cynlluniau’n nodi sut y gellir annog disgyblion a staff i gerdded, beicio neu fynd ar gefn sgwter i’r ysgol, yn hytrach na theithio mewn car.  

Mae Cynlluniau Teithio yn lleihau tagfeydd a llygredd ac yn annog ymarfer corff rheolaidd.

Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road ac ysgol Gynradd Coed Eva oedd y cyntaf yn Nhorfaen i fabwysiadu cynlluniau teithio llesol yn 2022.

Maent yn cynnwys ymrwymiad i hyrwyddo manteision teithio llesol mewn gwersi, gwasanaethau boreol a digwyddiadau i nodi Wythnos Cerdded i Ysgol ym mis Mai i gynyddu nifer y disgyblion a'r staff sy'n teithio’n llesol i'r ysgol.  

Mae disgyblion ac athrawon hefyd yn cael eu hannog i fynd ati i deithio’n llesol i'r ysgol, i wersi oddi ar safleoedd ac i unrhyw ddigwyddiadau yn yr ysgol pan fydd hynny'n bosib.

Gall Cynlluniau Teithio Llesol mewn ysgolion hefyd gynnwys nodi lleoliadau “parcio a theithio” lle gall rhieni barciopellter byr o’r ysgol a gall y plant gerdded neu fynd ar gefn sgwter i’r ysgol, neu, gellir sefydlu bysiau cerdded.

Os hoffai eich ysgol wybod mwy am y Cynlluniau Teithio Llesol ar gyfer ysgolion cysylltwch â Donna Edwards-John ar 01495 742861 neu e-bostiwch donna.edwards-john@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 25/09/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cynlluniau Teithio Llesol ar gyfer ysgolion
Ffôn: 01495 742861

Ebost: donna.edwards-john@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig