Teithio Llesol yn Nhorfaen
Mae Teithio Llesol yn golygu cerdded a beicio (yn cynnwys defnyddio sgwteri symudedd) ar gyfer teithiau dyddiol.
Mae hyn yn cynnwys teithio i’r ysgol, i’r gwaith, i’r siopau neu i ddefnyddio gwasanaethau, er enghraifft, canolfannau iechyd neu hamdden. Nid yw teithio llesol yn cynnwys cerdded a beicio am resymau hamdden neu gymdeithasol.
I gael mwy o wybodaeth am rhwydwaith teithio llesol Torfaen, ewch i mapdata.llyw.cymru
Mae sawl gorsaf atgyweirio beiciau am ddim yn y fwrdeistref – i gael manylion, ewch i Beicio yn Nhorfaen.
Adroddiadau Cynnydd Blynyddol
Isod mae ein hadroddiadau blynyddol sy'n tynnu sylw at y camau a gymerwyd i gynyddu teithio llesol, a gwella'r rhwydwaith yn Nhorfaen.
Cyhoeddir adroddiadau blynyddol yn unol â'r dyletswyddau o dan adrannau 7 (3) a 10 (2), Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Diwygiwyd Diwethaf: 27/11/2025
Nôl i’r Brig