Cynllun Datblygu Lleol Newydd Torfaen
Mae'n ofynnol i bob cyngor baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i lywio'r gwaith o ddatblygu a defnyddio tir.
Bob 15 mlynedd mae angen cynllun datblygu newydd i ddisodli’r Cynllun Datblygu Lleol.
Fel rhan o'r broses, adolygwyd CDLl Torfaen yn 2017, a phenderfynwyd bod angen ei ddiwygio. Darllen Adroddiad Adolygu CDLl Torfaen.
Bydd y cynllun newydd yn amlinellu’r polisi cynllunio lleol tan 2037.
Bydd y CDLl presennol yn parhau i ddarparu'r fframwaith polisi o ran pennu ceisiadau cynllunio nes iddo gael ei ddisodli gan y cynllun newydd.
Amserlen y CDLl Newydd
Mae amserlen ar gyfer y broses, a elwir yn Gytundeb Cyflawni, wedi'i chymeradwyo:
- Rhagfyr 2017 - Ebrill 2018 - Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol cyfredol
- Tachwedd 2024 - Cynhyrchu, cyflwyno a chymeradwyo Cytundeb Cyflenwi
- Mai - Medi 2025 - Adolygu a diweddaru'r dystiolaeth a fydd yn cael ei defnyddio yn y cynllun
- Ebrill 2025 - Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol o ran opsiynau strategol
- Hydref 2025 - Cwblhau'r strategaeth a ffefrir
- Tachwedd / Rhagfyr 2025 - Ymgynghoriad ar y Strategaeth a ffefrir
- Ionawr - Hydref 2026 - Paratoi'r Cynllun Adneuo
- Tachwedd / Rhagfyr 2026 - Ymgynghoriad ar y Cynllun Adneuo
- Ionawr 2028 - Cyflwyno i Lywodraeth Cymru
- Ebrill / Mai 2028 – Arolygydd Cynllunio Annibynnol yn archwilio’r CDLlN
- Tachwedd 2028 - Y Cyngor yn derbyn adroddiad yr arolygydd
- Rhagfyr 2028 - Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Newydd
Darllen y Cytundeb Cyflawni yn llawn yma.
Mae holl gyhoeddiadau CDLlN ar gael yn y Rhestr Cyhoeddiadau.
I gael mwy o wybodaeth am Gytundebau Cyflenwi, lawr lwythwch dogfennau Llywodraeth Cymru Cynlluniau Datblygu yng Nghymru: Canllaw Cyflym a Cynlluniau Datblygu – Canllaw Cymunedol
Cynllun Cynnwys y Gymuned
Mae hyn yn amlinellu sut y byddwn yn cynnwys cymunedau lleol yn natblygiad y CDLlN.
Er mwyn helpu trigolion i fynd ati i gymryd rhan, byddwn yn sicrhau bod y broses, a'r cynllun, yn:
- Dryloyw
- Hygyrch
- Atebol
- Cynhwysol
- Hyblyg
Dweud eich dweud
Cadw mewn cysylltiad
Dilynwch Gyngor Torfaen ar Facebook, Instagram a Twitter
Cofrestrwch i dderbyn datganiadau i’r wasg
Yn ystod ymgynghoriadau, gallwch weld dogfennau yng nghanolfannau cwsmeriaid Blaenafon, Cwmbrân neu Bont-y-pŵl.
Diwygiwyd Diwethaf: 18/07/2025
Nôl i’r Brig