medium
Mae'r Cyngor yn gweithio tuag at gam y Strategaeth Ffafredig ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol Newydd a fydd yn nodi'r prif faterion, y weledigaeth, amcanion, opsiynau a ystyriwyd, strategaeth gyffredinol a safleoedd strategol Torfaen hyd at 2037. Cytunodd Llywodraeth Cymru ar Gytundeb Cyflawni diwygiedig, sy'n nodi amserlen ddiwygiedig ar gyfer paratoi Cynlluniau, ar 25 Tachwedd 2024 ac mae gwaith ar y CDLl yn mynd rhagddo yn unol â'r Cytundeb Cyflawni diwygiedig.