Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SDTC)
O 7 Ionawr 2019, bydd pob datblygiad newydd sy'n cynnwys mwy nag 1 tŷ neu dir lle mae'r ardal adeiladu yn 100m2 neu fwy yn golygu y bydd angen system draenio cynaliadwy i reoli dŵr wyneb ar y safle. Rhaid dylunio ac adeiladu systemau draenio dŵr wyneb yn unol â safonau gorfodol ar gyfer systemau draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
Rhaid i'r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol sy'n gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo (CCS) Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SDTC) cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Bydd gan y CCS ddyletswydd i fabwysiadu systemau cydymffurfiol ar yr amod eu bod wedi'u hadeiladu'n unol â'r cynigion a gymeradwywyd, ac yn gweithredu'n unol â hwy, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyo'r Corff.
Pa ddeddfwriaeth ydym ni’n cyfeirio ati?
Mae Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol gorfodol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDTC). Mae copi o’r Safonau Cenedlaethol Statudol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy a CIRIA 753: Llawlyfr ‘SDTC’ ar gael yma.
Mae Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SDTC) i gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal systemau sy'n cydymffurfio ag adran 17 yn yr Atodlen. Am ragor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth, gweler Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Beth yn union yw Corff Cymeradwyo (CCS) Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SDTC)?
Mae'r CCS yn swyddogaeth statudol a gyflwynir gan yr awdurdod lleol i sicrhau bod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy na 1 tŷ neu lle mae'r ardal adeiladu yn 100m2 wedi'u dylunio a'u hadeiladu'n unol â'r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
Sefydlwyd y CCS i:
- Werthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae gan waith adeiladu oblygiadau draenio, a
- Mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb cynaliadwy yn ôl Adran 17, Atodlen 3 (FWMA)
- Mae gan y CCS hefyd bwerau archwilio a gorfodi
- Ac mae'n defnyddio pwerau dewisol i gynnig cyngor anstatudol cyn y gwneir cais
Beth mae hyn yn ei olygu i fy natblygiad i?
P'un ai ydych chi'n ddatblygwr, asiant neu unigolyn sy'n ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, os yw eich datblygiad yn fwy nag 1 tŷ neu'n ardal adeiladu sy'n fwy na 100m2, rhaid i chi hefyd ofyn am gymeradwyaeth CCS ochr yn ochr â chymeradwyaeth cynllunio. Ni chaniateir i chi ddechrau adeiladu hyd nes y rhoddir y 2 ganiatâd.
Ni fydd yn ofynnol i safleoedd a datblygiadau presennol sydd â chaniatâd cynllunio a roddwyd neu a bernir eu bod wedi'u caniatáu (p'un a ydynt yn destun unrhyw amodau mewn perthynas â mater a gadwyd yn ôl) neu na dderbyniwyd cais dilys amdanynt ond ni wnaed penderfyniad yn eu cylch erbyn 7 Ionawr 2019, wneud cais am gymeradwyaeth CCS.
Fodd bynnag, bydd angen cymeradwyaeth CCS o hyd os rhoddwyd caniatâd cynllunio yn amodol ar amod yn ymwneud â mater a gadwyd yn ôl a bod cais i gymeradwyo'r mater a gadwyd yn ôl yn cael ei wneud cyn 7 Ionawr 2020.
Bydd rhai eithriadau’n berthnasol:
- Mae gwaith adeiladu nad oes angen caniatâd cynllunio yn cael ei eithrio o'r gofyniad am gymeradwyaeth CCS, nid yw'r eithriad yn berthnasol os yw’r gwaith adeiladu'n cwmpasu ardal o 100m2 neu fwy
- P'un â fod angen caniatâd cynllunio ai peidio, mae gwaith adeiladu sy'n cynnwys adeiladu tŷ sengl, neu fath arall o adeiladu, sy'n cwmpasu ardal o dir sy'n llai na 100m2, wedi'i eithrio o'r gofyniad am gymeradwyaeth
Sut ydw i’n ceisio cymeradwyaeth CCS?
Cais CCS cyn cyflwyno cais nad yw’n gysylltiedig â phroses cyn-ymgeisio’r ACLl
Bydd CCS yn cynnig gwasanaeth cyn-ymgeisio y codir tâl amdano, i drafod yn fanwl anghenion draenio eich safle, a'r hyn sydd angen ei gyflwyno gyda'ch cais. Bydd y gwasanaeth hwn yn wasanaeth ar wahân i'r gwasanaeth cynllunio cyn gwneud cais felly bydd angen ymgysylltu yn gynnar â'r gwasanaethau perthnasol. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun SDTC arfaethedig yn addas ac yn unol â safonau cenedlaethol a bod cynllun y safle yn ddigonol. Bydd y gwasanaeth hwn yn werthfawr i ddatblygwyr, i'w helpu i gyfyngu ar oedi a lleihau costau yn y tymor hir.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithredu ar ein ran i gynnig cyngor cyn cyflwyno cais.
Cais cyn-ymgeisio CCS wedi ei huno â phroses cyn-ymgeisio’r ACLl
Bydd y CCS yn cynnig gwasanaeth cyn-ymgeisio y codir tâl amdano, i drafod y system draenio ar eich safle yn fwy manwl, yn ogystal â'r hyn sydd angen ei gyflwyno gyda'ch cais. Cynigir y gwasanaeth hwn gyda'r cyngor cynllunio cyn gwneud cais os hoffech ei dderbyn. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun SDTC arfaethedig yn unol â safonau cenedlaethol a bod cynllun eich safle yn ddigonol. Bydd y gwasanaeth hwn yn werthfawr i ddatblygwyr i helpu i gyfyngu ar oedi a lleihau costau yn y tymor hir.
Rhaid cyflwyno ceisiadau llawn i’r CCS er mwyn iddynt eu dilysu a rhaid cynnwys y canlynol gyda hwy:
- cynllun sy'n pennu'r ardal adeiladu a maint y system ddraenio
- gwybodaeth ar sut y bydd y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â Safonau SDTC
- gwybodaeth y gofynnwyd amdani yn rhestr wirio'r ffurflen gais
- y ffi ymgeisio briodol
Bydd gan y CCS 7 wythnos i benderfynu ar geisiadau heblaw'r rheiny sydd angen Asesiad Effaith Amgylcheddol, ac os felly, mae ganddo 12 wythnos..
Mae Cyngor Bwrdeistref Caerffili yn gweithredu ar ein ran i gynnig cyngor cyn cyflwyno cais.
Mae ffurflenni cais a’r ddogfennaeth gysylltiedig ar gael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Gwybodaeth Bellach
Mae gwybodaeth helaeth ar gael ac mae'r tudalennau gwe canlynol yn adnodd defnyddiol sy'n rhad ac am ddim i gael mwy o wybodaeth am Ddraenio Cynaliadwy a'ch helpu i ddeall yr hyn y bydd angen i chi ei ystyried.
Diwygiwyd Diwethaf: 31/01/2019
Nôl i’r Brig