Pryd fydd angen caniatâd cynllunio arnaf?
Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch i:
- godi adeilad neu strwythur newydd (gan gynnwys lloriau caled neu batios)
- ymestyn neu newid adeilad sydd mewn bodolaeth
- newid sut caiff adeilad ei ddefnyddio, er enghraifft troi tŷ yn fflatiau neu wneud adeilad diwydiannol yn siop
- ymgymryd â gwaith peirianneg neu waith arall ar neu dan dir
- dymchwel adeilad neu strwythur
- gwneud gwaith i adeilad rhestredig
- gwneud gwaith mewn ardal gadwraeth
- gwneud gwaith ar goed a amddiffynnir neu goed mewn ardal gadwraeth
- codi adeiladau amaethyddol newydd
At hyn, mae’r system gynllunio yn delio â gwaith i adeiladau rhestredig, gwaith i goed a amddiffynnir a choed mewn ardaloedd cadwraeth ynghyd â rheoli arddangos arwyddion dan y rheoliadau hysbysebu.
Gall gwneud gwaith heb y gymeradwyaeth angenrheidiol arwain at gymryd camau gorfodi.
Datblygu a ganiateir
Mae rhai mân welliannau, newidiadau ac estyniadau y medrwch eu gwneud i’ch tŷ lle nad oes angen caniatâd cynllunio. Gall hyn gynnwys adeiladu rhai mathau o gynteddau, ystafelloedd haul gwydr dan faint penodol a hefyd rhai newidiadau mewnol. Gelwir y rhain yn ‘ddatblygiadau a ganiateir’.
Mae mwy o gyngor ar ddatblygiadau a ganiateir ar gael yn y Porth Cynllunio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis baner Cymru ar frig ochr dde y dudalen ar y porth fel bod yr wybodaeth a’r rheoliadau yn gywir i Gymru.
Cyngor pellach
Ebost: planning@torfaen.gov.uk
Ffôn: 01633 648095
Ysgrifennwch at: Pennaeth Rheoli Datblygu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd,Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, NP4 0LS.
Diwygiwyd Diwethaf: 31/05/2023
Nôl i’r Brig