Siarter Creu Lleoedd Cymru
Ym mis Chwefror 2023, llofnododd Cyngor Torfaen Siarter Creu Lleoedd Cymru, sy’n cyflwyno nifer o egwyddorion ar gyfer dylunio a chynllunio datblygiadau newydd yn ein cymunedau.
Fel llofnodydd i’r siarter, mae’r cyngor wedi addo:
- sicrhau bod y gymuned leol yn cael cyfrannu at ddatblygu cynigion
- dewis mannau cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd
- rhoi blaenoriaeth i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus
- creu strydoedd a mannau cyhoeddus cynhwysol, penodedig, diogel a chroesawgar
- hyrwyddo cymysgedd cynaliadwy o ddefnyddiau i wneud lleoedd byrlymus
- a thrysori a pharchu rhinweddau a hunaniaeth unigryw a chadarnhaol lleoedd
Datblygwyd Siarter Creu Lleoedd Cymru gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru, ar y cyd â sefydliadau sy’n gweithio yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol.
Siarter Creu Lleoedd Cymru ar waith
Rydym eisoes yn rhoi sylw i nifer o’r deilliannau hyn ac yn eu cyflawni, a gwelir tystiolaeth o hyn yn Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif ac mewn gwelliannau i’r parth cyhoeddus, strategaethau ar gyfer canol trefi a chynlluniau adfywio. Mae’r prosiectau hyn yn golygu cydweithio ar draws nifer o dîmau a meysydd gwasanaeth, ac mae pob un yn gweithio tuag at amcanion a nodau sy’n cyd-fynd ag egwyddorion creu lleoedd.
Yng Nghynllun Datblygu Lleol y cyngor cyflwynwyd polisi Creu Lleoedd penodol ar gyfer
datblygiadau newydd hefyd, ac mae’n gofyn i ddatblygwyr gydnabod yr amgylchedd naturiol ac adeiledig lleol wrth ystyried dyluniad a defnyddiau.
Amcanion Llesiant
Sylfaen creu lleoedd fel cysyniad yw gwella lleoedd a’u rheoli er budd unigolion, cymunedau a’r amgylchedd. Yn hyn o beth, mae creu lleoedd yn cefnogi’r amcanion llesiant yng Nghynllun Sirol Torfaen y Dyfodol trwy ystyried addysg a sgiliau; pobl ifanc a theuluoedd; anghydraddoldeb; cysylltedd rhwng pobl a’u cymunedau; yr argyfyngau hinsawdd a natur; economi Torfaen; llesiant meddyliol a chorfforol; diwylliant lleol a threftadaeth leol; a darparu gwasanaethau â ffocws ar gwsmeriaid.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Comisiwn Dylunio Cymru.
Diwygiwyd Diwethaf: 08/09/2023
Nôl i’r Brig