Tir Halogedig
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ddyletswydd i orfodi darpariaethau'r Drefn Tir Halogedig a ddaeth i rym yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2001 dan Ran IIA Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae'r drefn hon yn darparu fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer nodi ac adfer Tir Halogedig hanesyddol ledled y Fwrdeistref Sirol. Dan y darpariaethau newydd hyn, mae'n ofynnol i'r Cyngor asesu tir yn ei ardal i benderfynu pa safleoedd sy'n achosi niwed i iechyd neu lygredd i'r amgylchedd, neu safleoedd a allai fod yn gwneud hynny, a sicrhau y cymerir camau i'w gwneud yn ddiogel. Gallai hyn olygu gosod gofyniad ffurfiol ar lygrwyr, perchenogion tir a phartïon cyfrifol eraill i lanhau safle.
Beth yw tir halogedig?
Ceir diffiniad cyfreithiol o Dir Halogedig, ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddilyn y rheolau cyfreithiol wrth wirio pa un a yw'r tir yn achosi problem.
Diffinnir tir halogedig fel:-
"Unrhyw dir sy'n ymddangos i'r awdurdod lleol y mae wedi'i leoli yn ei ardal, ei fod, oherwydd sylweddau sydd ynddo, arno neu oddi tano, yn y fath gyflwr fel bod -
(a) niwed sylweddol yn cael ei achosi neu fod posibilrwydd sylweddol iddo achosi hynny; neu fod
(b) llygredd dyfroedd rheoledig yn cael ei achosi neu'n debygol o gael ei achosi;.."
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i halogiad fod yn cael effaith niweidiol ar iechyd pobl neu'r amgylchedd, neu ei fod yn debygol iawn o achosi effaith o'r fath, cyn y gellir ystyried bod safle'n halogedig. Mae'n bwysig sylweddoli na fydd safle'n bodloni'r diffiniad o dir halogedig am y rheswm syml bod halogyddion yn bresennol.
Mae Cyngor Torfaen wedi cyhoeddi 'Strategaeth Archwilio Tir Halogedig' ar gyfer edrych ar ardaloedd o dir yn y Fwrdeistref Sirol, ac mae ei Swyddogion Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd eisoes wedi dechrau cynnal archwiliadau manwl o safleoedd a allai fod yn achosi problem.
Beth gellir ei wneud am dir halogedig?
Os canfyddir bod tir yn halogedig yn ôl y diffiniad statudol, mae'n rhaid ei adfer i gyflwr sy'n golygu ei fod yn 'addas i'w ddefnyddio'. Caiff hyn ei bennu yn ôl y defnydd a fwriedir ar gyfer y tir. Er enghraifft, bydd angen targedau glanhau llymach ar gyfer gerddi domestig na safle sydd i'w ddefnyddio ar gyfer datblygiad diwydiannol, gan fod mwy o berygl y gallai unigolion ddod i gysylltiad â'r halogiad. Bydd y targedau glanhau hefyd yn ystyried unrhyw risgiau i'r amgylchedd, yn enwedig cyrsiau dŵr a dŵr daear.
Pa ddatrysiadau sydd ar gael i lanhau safleoedd halogedig?
Mae'n bosibl y bydd angen cynnal rhyw fath o waith adfer ar safle yr effeithir arno gan halogiad cyn y gellir ei ddefnyddio eto. Gellir cyflawni hyn mewn sawl ffordd a bydd y dull a ddewisir yn dibynnu ar ffactorau fel y math o halogiad sy'n bresennol, daeareg y safle, gofynion rheoleiddio a chynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol.
A wyf i'n atebol os wyf yn prynu neu'n gwerthu tir sy'n cynnwys halogiad?
Os oes gan y tir y mae eich cartref neu'ch safle wedi'i adeiladu arno hanes o ddefnydd diwydiannol, gwaredu gwastraff neu gloddio, mae'n bosibl (ond nid yn sicr o bell ffordd) y bydd y ddaear wedi'i halogi mewn rhyw ffordd. Os oes gennych reswm da i amau bod y cartref neu'r safle busnes rydych chi'n ei brynu wedi'i leoli ar dir a allai fod yn halogedig, mae'n bosibl y bydd angen cyngor arbenigol arnoch. Gall eich Tîm Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd lleol eich helpu gyda hyn.
Sut gallaf ddarganfod a yw tir yn halogedig?
Os ydych yn pryderu y gallech fod yn byw ar safle a allai fod yn halogedig, cysylltwch â Thîm Iechyd Cyhoeddus Cymru ar: 01633 647290 i ganfod a oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw am y tir. Mewn rhai achosion, codir tâl am gyflenwi'r data hwn. Fel arall, os ydych yn prynu cartref yn ardal Torfaen ac yn amau bod y tir wedi'i halogi, gofynnwch i'ch cyfreithiwr ymchwilio a bydd ef/hi yn ymgynghori â'r Cyngor.
Gwybodaeth Bellach
I gael mwy o wybodaeth am Dir Halogedig yn Nhorfaen, cysylltwch â Thîm Iechyd Cyhoeddus Cymru ar: 01633 647290. Mae copi o Strategaeth Archwilio Tir Halogedig y Cyngor ar gael i'w lawrlwytho yma.
Fel arall, mae mwy o wybodaeth ar gael ar y gwefannau canlynol:
Diwygiwyd Diwethaf: 11/10/2021
Nôl i’r Brig