Rheoli Llygredd - Ansawdd Aer
Beth rydym ni'n ei olygu gan Ansawdd Aer?
"Ansawdd Aer" yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio a dosbarthu crynodiad llygrwyr penodol yn yr aer. Gallai'r llygrwyr hyn gael effaith niweidiol ar iechyd pobl petai eu crynodiad yn cyrraedd lefel uchel.
Beth yw Cyfrifoldebau'r Cyngor?
Dan Ran IV Deddf yr Amgylchedd 1995, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol adolygu ac asesu ansawdd aer yn eu hardaloedd. Prif amcan hyn yw nodi ardaloedd lle mae ansawdd aer yn annhebygol o gyflawni'r amcanion a ragnodir yn Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2007 mewn lleoliadau sydd y tu allan i adeiladau neu adeileddau naturiol neu wneuthuredig eraill, uwchlaw'r ddaear neu o dan y ddaear, y mae aelodau'r cyhoedd yn bresennol ynddynt yn rheolaidd (lleoliadau perthnasol). Mae'r broses o adolygu ac asesu ansawdd aer yn gonglfaen o'r system rheoli ansawdd aer lleol (LAQM).
Mae'r Strategaeth Ansawdd Aer Genedlaethol (NAQS) a Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2007 yn cynnwys Safonau ac Amcanion sydd wedi'u seilio ar iechyd ar gyfer wyth llygrwr allweddol. Mae'r mesurau yn y NAQS wedi'u cynllunio i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer yn y blynyddoedd i ddod ac, yn gyffredinol, i alluogi sefyllfa lle y gellir cyflawni'r Amcanion.
Mae'r Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn yr is-adran Gorfodi Tai a Llygredd yn gyfrifol am fonitro ansawdd aer yn Nhorfaen.
Pa fath o Fonitro Ansawdd Aer a gynhelir yn Nhorfaen?
Mae gorsaf monitro ansawdd aer awtomatig y Cyngor wedi'i lleoli ar dir Ysgol Gyfun Croesyceiliog yn nhref Cwmbrân yn ne'r Fwrdeistref Sirol. Ym mis Mehefin 2001, daeth y dadansoddwyr awtomatig yn safle ‘Cwmbrân’ yn gysylltiedig â'r Rhwydwaith Trefol a Gwledig Awtomatig. Fel y cyfryw, caiff yr holl ganlyniadau o'r orsaf eu cadarnhau ac maent yn cyfrannu at Rwydwaith Monitro Llygredd Aer y DU. Caiff y safle ei ddosbarthu fel Safle 'Cefndir Trefol' (Cyfeirnod Grid: ST 305 955) ac mae wedi'i leoli gerllaw meysydd chwarae'r ysgol. Felly, mae'r lleoliad monitro yn cynrychioli safle y mae aelodau'r cyhoedd yn bresennol ynddo'n rheolaidd. Mae mwy o fanylion am yr orsaf fonitro yng Nghwmbrân ar gael ar wefan Ansawdd Aer Cymru.
Mae'r llygrwyr canlynol yn cael eu monitro'n barhaus yn y safle:
- Nitrogen Deuocsid
- Gronynnau (PM10)
- Osôn
Mae'r Cyngor hefyd yn monitro lefelau Nitrogen Deuocsid (NO2) mewn 25 safle tiwb tryledu ledled y Fwrdeistref Sirol.
Adroddiadau Cynnydd Ansawdd Aer Blynyddol
Hyd yma mae'r Cyngor wedi cyhoeddi 16 Adroddiad Cynnydd ar Ansawdd Aer. Yr adroddiad diweddaraf yw Adroddiad Cynnydd 2023 sy'n ymwneud â monitro yn 2022. Cyflwynwyd Adroddiadau Cynnydd i'r system Rheoli Ansawdd Aer Lleol (LAQM) yn dilyn gwerthusiad manwl o'r gyfres gyntaf o adolygiadau ac asesiadau gan awdurdodau lleol, a nodwyd bod angen datblygu gweledigaeth tymor hwy ar gyfer LAQM a'r broses adolygu ac asesu.
Mae’r Adroddiad diweddaraf ar Ansawdd Aer Torfaen i’w weld isod:
Mae adroddiadau blaenorol ar gael ar gais drwy yrru e-bost i public.health@torfaen.gov.uk
Dolenni Defnyddiol
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y gwefannau canlynol:
Diwygiwyd Diwethaf: 15/01/2024
Nôl i’r Brig