E.coli O157
Mae E.coli 0157 yn facteria sydd yn gallu achosi salwch sy'n amrywio o ychydig o ddolur rhydd i lid difrifol y coluddyn mawr.
Beth yw'r symptomau?
Dolur rhydd yw'r symptom pennaf; gall amrywio o ychydig o ddolur rhydd sy'n diflannu o fewn pythefnos i ddolur rhydd difrifol gyda phoenau difrifol yn y stumog a dolur rhydd gwaedlyd. Gall rhai pobl gael yr haint heb ddangos unrhyw symptomau. Gall nifer fach iawn o achosion, yn enwedig ymhlith plant a'r henoed, ddatblygu'r hyn a elwir yn syndrom haemolytic uraemic neu HUS, sy'n achosi methiant arennol aciwt.
O Ble y Daw'r Haint?
Ceir hyd i'r bacteria yn llwybr gastroberfeddol rhai anifeiliaid domestig. Mae fel arfer yn trosglwyddo i bobl wrth iddynt fwyta cynnyrch bwyd wedi'i halogi. Mae achosion wedi eu cysylltu â byrgers cig eidion, cig oen, cyw iâr a thwrci heb ei goginio'n iawn , llaeth heb ei basteureiddio, dŵr wedi'i halogi a llysiau. Gall haint ymddangos ar ôl cyswllt gydag anifeiliaid heintiedig, yn enwedig ar ffermydd a gwarchodfeydd cyhoeddus.
Beth yw'r Cyfnod Magu?
Fel arfer rhwng 1 a 6 diwrnod ond gall fod cyn hired â 14 diwrnod.
Sut Allaf Leihau'r Risg o Gael yr Haint?
- Golchwch eich dwylo cyn paratoi bwyd ac ar ôl trafod cig amrwd.
- Glanhewch a diheintiwch arwynebau, offer a chyfarpar cegin yn rheolaidd.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio'n drylwyr. Mae hyn yn hynod bwysig i gynhyrchion briwgig.
- Cadwch fwydydd parod i ffwrdd o gig amrwd bob amser.
- Golchwch salad, ffrwythau a llysiau mewn dŵr glân sy'n llifo.
Beth Ddylwn Ei Wneud Os Wyf yn Dal yr Haint?
- Os yw'r symptomau'n ddifrifol a/neu'n parhau am gyfnod hir, mynnwch gyngor meddygol. Mae'n hynod bwysig bod plant ifanc, menywod beichiog, yr henoed, a'r rheiny sydd eisoes dan oruchwyliaeth feddygol, yn derbyn triniaeth.
- Os oes aelod o'r cartref yn dioddef o ddolur rhydd a chwydu, gallai'r haint drosglwyddo i eraill. Glanhewch a defnyddiwch ddiheintydd i lanhau'r tŷ bach, dolen y tŷ bach a dolen y drws yn rheolaidd.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi'ch dwylo ar ôl unrhyw gyswllt â pherson heintus.
- Os yw trafod bwyd yn rhan o'ch gwaith, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich goruchwyliwr/rheolwr a Swyddog o'r Tîm Diogelwch Bwyd.
- Pan fyddwch yn mynd at y meddyg, cofiwch ddweud eich bod yn trafod bwyd, os dyna yw'r achos.
Os oes angen cyngor pellach arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig