Clostridium Perfringens
Beth yw Clostridium perfringens?
Mae clostridium perfringens yn fath o organeb gwenwyn bwyd sy'n cael ei gysylltu'n aml ag arlwyo ar raddfa fawr, fel ffreuturau, ysgolion ac ysbytai. Ceir hyd iddo ym mherfeddion anifeiliaid, adar a phobl. Mae'n bwrw gwreiddiau yn hawdd iawn. Bydd sborau yn ffynnu mewn pridd neu lwch am gyfnod hir iawn ac os yw'r llystyfiant neu'r ffynonellau dŵr wedi'u halogi mae'n debygol o heintio anifeiliaid sy'n cael eu bwyta. Gall cynhyrchion halogedig arwain at heintiau dynol. Gall pridd sy'n glynu wrth lysiau hefyd fod yn ffynhonnell posib mewn mannau lle mae bwyd yn cael ei baratoi. Mae angen nifer fawr o'r organeb hon i achosi salwch ymhlith pobl.
Pa fwydydd sy'n cael eu heffeithio?
Mae'r math hwn o wenwyn bwyd yn cael ei gysylltu'n aml â chig a chynhyrchion cig sy'n cael eu hailgynhesu. Am nad yw'r organeb yn medru lluosi heb bresenoldeb aer, mae'n ffynnu ar waelod crochan neu ynghanol pastai cig neu ddarn o gig wedi rholio. Mae'r mwyafrif o'r achosion fel arfer yn cynnwys nifer fawr o bobl oherwydd y ceir hyd i Clostridium perfringens fel arfer mewn bwydydd sy'n cael eu paratoi ar raddfa fawr.
Beth yw'r symptomau?
Mae'r symptomau yn cynnwys poen yn y stumog a dolur rhydd ac mae fel arfer yn parhau am 12-24 awr. Prin yw'r claf yn chwydu. Mae'r symptomau'n dechrau rhwng 8 a 24 awr ar ôl bwyta bwyd halogedig.
Camau i'w dilyn!
Yn ystod y cyfnod dolur rhydd dylai hylendid personol fod o'r pwys mwyaf a dylid osgoi trafod bwyd. Mae'n hawdd trosglwyddo'r haint i bobl eraill yn ystod y cyfnod hwn
Os oes angen cyngor pellach arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig