Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 8 Hydref 2025
Mae mwy na 54,000 o bobl wedi ymweld â Llyfrgell Cwmbrân ers iddi ailagor ar 31 Mawrth eleni, yn dilyn gwaith ailwampio gwerth hanner miliwn o bunnau.
Roedd y gwaith ailddatblygu yn cynnwys llyfrgell newydd yn benodol i bobl ifanc yn eu harddegau, ardaloedd astudio hyblyg a mannau cymunedol.
Yn ystod yr un cyfnod, daeth 2,300 o bobl, ar gyfartaledd, trwy ddrysau Llyfrgell Pont-y-pŵl bob mis, gyda Llyfrgell Blaenafon yn gweld tua 3,100 o ymwelwyr.
Mae arolwg wedi cael ei lansio er mwyn ceisio deall beth mae pobl yn ei hoffi am eu llyfrgelloedd lleol ac, i'r rheiny sydd ddim yn eu defnyddio, beth arall yr hoffent ei weld yno.
Bydd yr ymgynghoriad yn archwilio sut y gall llyfrgelloedd fodloni anghenion y gymuned yn well, adnabod unrhyw fylchau yn y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd, a datgelu syniadau newydd ar gyfer defnyddio llyfrgelloedd.
Meddai’r Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Lywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau: "Rydyn ni’n gweithio i wneud ein llyfrgelloedd yn fannau mwy hyblyg a chroesawgar i drigolion a grwpiau cymunedol. I fod yn lle sy'n ysbrydoli defnydd newydd a chreadigol, ac yn helpu i gefnogi annibyniaeth, cydnerthedd a llesiant."
"Er bod benthyg llyfrau yn dal i fod yn rhan greiddiol o'r gwasanaeth, mae ein llyfrgelloedd wedi dod yn hybiau cymunedol bywiog, sy'n cynnig dewis o wasanaethau gwahanol gan gynnwys mynediad am ddim i gyfrifiaduron, Wi-Fi am ddim a rhaglen o weithgareddau a chyfleoedd dysgu gydol oes sy’n tyfu drwy’r amser.
"Os ydych chi’n defnyddio ein llyfrgelloedd yn barod, yna hoffem wybod beth rydych chi'n ei hoffi amdanynt a beth arall yr hoffech ei weld yn cael ei gyflwyno. Os nad ydych chi'n eu defnyddio - neu dydych chi ddim wedi ymweld ers amser - hoffem wybod pam a beth arall y gallwn ei wneud i'ch annog i ymweld."
Rydyn ni’n annog trigolion i gwblhau arolwg byr ar-lein, sy'n cau ddydd Gwener 21 Tachwedd 2025.
Cymerwch ran yn yr arolwg yma.
Ariannwyd y gwaith o adnewyddu Llyfrgell Cwmbrân gyda £300,000 o Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru a £127,000 gan y Cyngor.
Roedd yn dilyn cyllid blaenorol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Llyfrgelloedd Pont-y-pŵl a Blaenafon, gyda £300,000 yn cael ei ddyrannu i Lyfrgell Pont-y-pŵl yn 2011 a £100,000 pan symudodd Llyfrgell Blaenafon i Ganolfan Treftadaeth y Byd yn 2015.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am wasanaeth llyfrgell Cyngor Torfaen ar ein gwefan