Helpu Torfaen i dyfu

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 5 Mehefin 2025

Mae llyfrgelloedd hadau yn egino o amgylch y fwrdeistref i annog trigolion i dyfu llysiau gartref. 

Mae pob llyfrgell hadau yn cynnwys amrywiaeth eang o hadau llysiau fel ffa dringo a letys cymysg, y gall preswylwyr eu cymryd am ddim. 

Mae'r prosiect yn gobeithio annog trigolion i dyfu a bwyta eu cynnyrch eu hunain ac, yn ei dro, cadw hadau o blanhigion aeddfed i ailgyflenwi'r llyfrgelloedd gan sicrhau cynaliadwyedd y prosiect am flynyddoedd i ddod.

Gellir dod o hyd i lyfrgelloedd hadau sydd eisoes wedi'u sefydlu yn: Able; Llyfrgell Blaenafon; Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road; Fferm Ysgubor Oer; Hwb Cymunedol CoStar, Siopau Fairwater; Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer; Llyfrgell Cwmbrân; Gerddi Cymunedol Clwb Rygbi Forgeside; Partneriaeth Garnsychan; Caffi Maenor Llantarnam; Llyfrgell Pont-y-pŵl; Prosiect Canddo; Gwasanaeth Addysg Sipsiwn a Theithwyr Torfaen. Bydd pedair llyfrgell hadau arall yn agor yn Ysgol Gynradd Garnteg, Neuadd Bentref Ponthir, Ysgol Uwchradd Cwmbrân, ac Ysgol Gynradd Coed Efa.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Mae'r llyfrgelloedd hadau hyn yn enghraifft wych o sut y gall cynlluniau bach cymunedol gael effaith fawr.

"Maent nid yn unig yn hyrwyddo arferion bwyd cynaliadwy a ffyrdd iachach o fyw ond hefyd yn dod â phobl at ei gilydd trwy gariad ar y cyd at dyfu. 

"Gan ei fod yn Ddiwrnod yr Amgylchedd y Byd, mae hefyd yn bwysig cydnabod manteision amgylcheddol tyfu eich bwyd eich hun, sydd nid yn unig yn dileu'r allyriadau carbon a gynhyrchir trwy gludo bwyd, mae'n cynyddu bioamrywiaeth leol."

I nodi'r lansiad, cynhaliwyd sesiwn plannu cymunedol ym Marchnad Pont-y-pŵl ym mis Mawrth. Mae rhagor o weithdai cadw hadau wedi'u trefnu ar gyfer yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ddysgu i drigolion sut i gasglu a storio hadau yn effeithiol.

Mae cyfranogwyr yng nghanolfan sgiliau bywyd Able, Cwmbrân, yn rheoli eu llyfrgell hadau leol ond hefyd yn rhedeg llyfrgell offer hygyrch, sydd ag offer garddio hir a hawdd eu gafael. Mae'r gwasanaethau hyn hefyd ar waith yn Canddo yn Nhŷ Panteg, gan wneud garddio yn fwy cynhwysol i bawb.

Mae'r llyfrgelloedd hadau wedi'u sefydlu gan Bartneriaeth Bwyd Torfaen sy'n cael ei chefnogi gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy am Bartneriaeth Bwyd Torfaen

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/06/2025 Nôl i’r Brig