Dodrefn am ddim i ysgolion a grwpiau cymunedol

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 29 Ionawr 2025

Mae bron i 100 o eitemau o ddodrefn yn cael eu cynnig i ysgolion a grwpiau cymunedol lleol wrth baratoi at brosiect i ailwampio Llyfrgell Cwmbrân. 

Mae silffoedd llyfrau, byrddau, desgiau a chadeiriau sydd ddim yn gallu cael eu hailbwrpasu yn rhan o'r gwaith ailgynllunio, ar gael am ddim, a’r cyntaf i'r felin amdani. Rhaid casglu eitemau cyn dydd Llun 24 Chwefror.

Am wybodaeth am yr hyn sydd ar gael ac i ofyn am offer, ewch i  Dweud Eich Dweud Torfaen. Gallwch hefyd ymweld â'r llyfrgell i weld yr eitemau.

Bydd y llyfrgell ar gau ar gyfer y gwaith ailwampio am tua phedair wythnos, o ddydd Llun 24 Chwefror.

Bydd y gwaith ailgynllunio'n cynnwys cyfleusterau digidol newydd, hwb gweithio ystwyth, llyfrgell i bobl ifanc yn eu harddegau ac ardaloedd ar gyfer iechyd, llesiant a chymorth cymunedol. Cliciwch ar y botwm isod i weld y cynlluniau newydd.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru gwerth £300,000, a £127,000 gan Gyngor Torfaen.

Mae'n dilyn buddsoddiad o £300,000 yn Llyfrgell Pont-y-pŵl yn 2011 a £100,000 yn Llyfrgell Blaenafon yn 2015.

Meddai’r Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol dros Lywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau: "Mae Llyfrgell Cwmbrân yn gyfleuster cymunedol gwych sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio'n dda gan filoedd o bobl bob mis.

"Yr haf hwn, cymerodd dros 900 o blant ran yn ein sialens ddarllen flynyddol a daeth llawer i mewn i'r llyfrgell bob wythnos i fenthyg llyfrau.

"Rydyn ni’n gobeithio y bydd y buddsoddiad newydd hwn yn helpu i foderneiddio'r cyfleusterau a denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn dod i weld y cynlluniau pan fyddan nhw’n barod ac yn rhannu eu barn amdanyn nhw gyda ni."

Bydd y gwaith o ailwampio’r Llyfrgell yn rhan o gynlluniau ehangach i wella Tŷ Gwent dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau’r Llyfrgell tra’i bod ar gau, ewch i dudalen Llyfrgell Cwmbrân. Neu anfonwch neges trwy e-bost i Cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 31/01/2025 Nôl i’r Brig