Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Tachwedd 2024
Mae wyth menter gymdeithasol wedi derbyn grantiau o hyd at £50,000 i helpu i ariannu cyfleoedd busnes newydd.
Nod y grantiau yw helpu i sicrhau hyfywedd y mentrau cymdeithasol sy'n rhoi prosiectau masnachol ar waith i gefnogi cymunedau lleol, yn y tymor hir.
Fel rhan o'r grantiau Her Menter Gymdeithasol, a lansiwyd gan dîm Creu Cymunedau Cryf y cyngor yn yr haf, bydd sefydliadau'n cael hyfforddiant a chefnogaeth i ddatblygu cynllun cynaliadwyedd 12-mis.
Dywedodd Mathew Bartlett, o Brosiect Gobaith i’r Gymuned sydd wedi ei leoli yn Eglwys Efengylaidd Sharon: “Mae ein prosiect yn cefnogi'r gymuned ym Mhont-y-pŵl trwy gynnig caffi a siop i helpu gyda chostau bwyd a thanwydd yn ystod yr argyfwng costau byw.
“Bydd y grant yn ein helpu i hysbysebu a datblygu ein model busnes i sicrhau bod y gwaith pwysig hwn yn gynaliadwy yn y tymor hir.”
Dywedodd Nathan Daniel, Mentroar, menter gymdeithasol newydd sy'n cefnogi a mentora pobl ifanc ac oedolion sydd â heriau ymddygiadol ac emosiynol: “Rydym yn bwriadu defnyddio chwaraeon, ffitrwydd, gweithgareddau awyr agored, a mentora cyfoedion i wella iechyd meddwl a lles.
"Bydd y rhaglen hon yn rhoi hwb i ni, ac yn ein galluogi i gefnogi mwy o bobl, gan sbarduno newid cadarnhaol.”
Dyma’r mentrau llwyddiannus eraill:
- BB Sustainable Tourism: Agor ail siop fanwerthu ym Mlaenafon i hybu'r economi leol gyda chynnyrch naturiol.
- Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân: Ehangu sesiynau hyfforddi, cyfleusterau cyfarfod, a champfa i bobl ifanc.
- Fferm Maenor Llanyrafon: Ail-agor Ystafell De Gymunedol a chynnal marchnadoedd misol.
- Neuadd Bentref Ponthir: Uwchraddio cyfleusterau i gynnig lleoliad i gynnal priodasau, a siopau cymunedol.
- Tasty Not Wasty: Ehangu cyfleuster oergell gymunedol a chaffi talu fel y mynnwch.
- Torfaen Talks: Sesiynau cwnsela ac iechyd meddwl talu fel y mynnwch.
Fel asiantaeth datblygu cydweithredol fwyaf y DU, mae Cwmpas wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ledled Cymru ers dros 40 mlynedd i gefnogi busnesau sy'n blaenoriaethu lles cymdeithasol dros elw preifat.
Dywedodd Martin Downes, Arweinydd Dysgu a Datblygu Cwmpas: “Mae gan fentrau cymdeithasol ddealltwriaeth ddofn o anghenion eu cymunedau ac maent mewn sefyllfa unigryw i hyrwyddo gwerth cymdeithasol, yn ogystal â sbarduno twf economaidd ac adfywio cymunedol.
“Mae'n anrhydedd i ni weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i hyfforddi a chefnogi'r fath fentrau cymdeithasol gwych. Gellir cyflawni cymaint pan fydd busnesau'n gweithio i fynd i'r afael â materion cymdeithasol a chreu effaith er daioni.”
Amcangyfrifir bod mwy na 30 o fentrau cymdeithasol yn Nhorfaen, gan gynnwys darparwyr gofal cymdeithasol, prosiectau ailgylchu, a chydweithfeydd bwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau,: “Mae mentrau cymdeithasol yn darparu gwasanaethau hanfodol yn ein cymunedau a all helpu lles meddyliol a chorfforol pobl, a'u cefnogi'n ariannol.
“Fel rhan o'n Strategaeth Llesiant Cymunedol, ein nod yw cefnogi sefydliadau fel mentrau cymdeithasol i ganfod bylchau mewn gwasanaethau lleol a gweithio gyda nhw i ddarparu atebion hirdymor sy’n gynaliadwy.”
Mae'r Her Menter Gymdeithasol wedi derbyn £315,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nodiadau i Olygyddion:
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU i fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus