Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Ebrill 2025
Bydd cwmni buddiannau cymunedol sy'n gobeithio denu ymwelwyr newydd i Flaenafon yn agor ei ddrysau cyn hir yn un o adeiladau hynaf y dref
Daw hyn ar ôl gwaith i adnewyddu'r eiddo fel rhan o Raglen Treftadaeth Treflun Blaenafon gwerth £1.9m a oedd yn anelu at warchod treftadaeth canol y dref.
Mae cyfanswm o bum adeilad adfeiliedig wedi cael eu hadfer i’w defnyddio fel cyfleusterau masnachol, preswyl neu gymunedol, diolch i'r buddsoddiad, gan gynnwys dau adeilad arall ar Broad Street, Capel Bethlehem, ac adeilad ar Market Street
Sefydliad nid er elw yw BB - Sustainable Tourism CIC sydd â’u bryd ar gynyddu twristiaeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac maen nhw wrth eu bodd o gyhoeddi y byddan nhw’n agor ail leoliad manwerthu yn yr hen Market Tavern ym Mlaenafon sydd wedi ei adnewyddu, y mis hwn.
Mynegodd Helen Howarth, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol BB Sustainable Tourism CIC, ei chyffro: "Mae ein tîm yn angerddol am ffrwyno pŵer twristiaeth i godi'r economi leol, cyfoethogi bywydau trigolion, a gwerthfawrogi ein hamgylchedd naturiol.
"Rydym yn gweld Blaenafon fel y porth perffaith i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, man cychwyn croesawgar ar gyfer teithiau ymwelwyr di-ri. Ein nod yw estyn croeso twymgalon, 'croeso cynnes' i bawb sy'n dod trwy ein drysau."
"Mae ein Cwmni Buddiannau Cymunedol yn ymroddedig i greu economi gylchol sy'n grymuso busnesau lleol i ffynnu drwy gydol y flwyddyn ac adfywio fel cymuned unedig. Gan gydnabod breuder ein hecosystem a'n heconomi leol, rydym wedi ymrwymo i feithrin rhwydwaith cadarn o fusnesau cyd-gysylltiedig. Trwy gryfhau'r cysylltiadau hyn, gallwn sicrhau gwytnwch a chyflawni pethau gwych gyda'n gilydd."
Trwy eu sianeli manwerthu, ar-lein a chyfanwerthu, bydd yr hwb newydd yn cynnwys casgliad bywiog o anrhegion lleol ac eco-ymwybodol, cynhyrchion byw cynaliadwy, a chyflenwadau hanfodol i fusnesau.
Bydd y cwmni hefyd yn croesawu twristiaid i fflat gwyliau i annog ymwelwyr i aros ac edrych o gwmpas yr ardal leol. Bydd pob pryniant a phob archeb a wneir yn cyfrannu at eu cenhadaeth ysbrydoledig o'r enw "Profit For Purpose".
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Roedd yn hyfryd cwrdd â Helen a'i chyd-gyfarwyddwr, Arianwen, maen nhw'n awyddus i weithio gyda busnesau lleol i ddenu ymwelwyr i'r ardal ac arddangos yr hyn sydd gan Flaenafon i'w gynnig.
"Maen nhw'n angerddol am yr amgylchedd a chynaliadwyedd felly byddant yn gweddu’n dda.
"Pan oeddwn i'n ymweld â'r siop, fe wnaeth ychydig o bobl leol alw heibio i ofyn am y busnes, ac i ddymuno lwc iddyn nhw - roedd yn hyfryd.
“Mae ganddyn nhw lawer o gynlluniau ac angerdd, a bydd yn gyffrous i mi ddilyn eu cynnydd."
Dywedodd y Cyng. Gareth Davies: "Fel Cadeirydd y Rhaglen Treftadaeth Treflun, rwyf wedi bod yn hapus i gyfrannu at werthuso'r prosiect, mae dysgu am yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a'r hyn y gellid ei wella yn gam hanfodol wrth ddylunio ceisiadau cyllid a rhaglenni yn y dyfodol, felly rwy'n falch o annog trigolion a rhanddeiliaid i roi eu barn i'r gwerthusiad drwy gwblhau’r arolwg ar-lein."
Dechreuodd Rhaglen Treftadaeth Treflun (RhTT) Blaenafon yn 2018 ac mae wedi'i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon, Cadw ac ymgeiswyr sector preifat.
Fel rhan o'r rhaglen RhTT, mae 10 prosiect cymunedol hefyd wedi'u gwneud, gan gynnwys creu tapestri sy'n olrhain hanes Broad Street, Blaenafon, a gafodd ei droi wedyn yn arddangosfa ddigidol a sain newydd y gellir ei gweld yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon.
Cynhyrchwyd ffilm "Hidden Histories of Blaenavon" hefyd i archwilio a dathlu ffigurau allweddol a llai adnabyddus a helpodd i lunio tref Blaenafon yn ystod oes Victoria, a chafodd Mynavon, fideo Youtube, ei greu gan bobl ifanc gyda chefnogaeth Côr Meibion Blaenafon.
Dysgwch fwy am Flaenafon a’r Rhaglen Treftadaeth Treflun
Dysgwch fwy am BB Sustainable Tourism