Cymorth i dyfu busnesau

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 24 Mehefin 2025
Business growth support

Mae cwrs sy’n anelu at helpu busnesau bach i gymryd y cam nesaf yn dechrau yr wythnos hon.

Bydd y Bŵtcamp Tyfu Busnesau yn canolbwyntio ar helpu busnesau ac unigolion sy'n hunangyflogedig i dyfu eu busnesau a dod yn fwy cydnerth.

Mae’n dechrau ddydd Iau 26 Mehefin, a bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn cael cyngor am ddiffinio pwrpas eu busnes, llunio map trywydd a gwneud newidiadau.

Mae'r cwrs wedi'i ariannu’n llawn ac wedi’i drefnu gan dîm ymgysylltu â busnesau y Cyngor, a bydd yn cael ei redeg gan fentoriaid busnes ICE Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Yn anffodus, mae dros hanner y busnesau newydd yn y DU yn methu o fewn y tair blynedd gyntaf.

"Trwy Amcanion Llesiant ein Cynllun Sirol, rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr entrepreneuriaid sy'n dal i fod mewn busnes yn Nhorfaen ar ôl yr ychydig flynyddoedd cyntaf.

"Bydd hyn yn helpu i yrru twf economaidd ehangach ac i gynyddu amrywiaeth busnesau yn y Fwrdeistref a chyfleoedd am swyddi i drigolion lleol."

Meddai Tom Phillips o ICE Cymru: "Mae gormod o fusnesau Cymru yn mynd yn sownd yn yr unfan a ddim yn gwybod beth i'w wneud i wella, na sut i symud ymlaen. Os yw'ch busnes yn y sefyllfa hon, bydd y bŵtcamp hwn yn rhoi eglurder i chi o ran y camau y mae angen i chi eu cymryd i dyfu'ch busnes i'r cam nesaf."

Cynhelir y Bŵtcamp Tyfu Busnesau wythnosol bob nos Iau, rhwng 5pm ac 8pm, hyd nes 17 Gorffennaf.

Bydd yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Parkway, yng Nghwmbrân, a bydd bwyd bys-a-bawd ar gael.

Mae lleoedd am ddim ond yn gyfyngedig - am ragor o wybodaeth, businessdirect@torfaen.gov.uk.

Ariennir y rhaglen gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/06/2025 Nôl i’r Brig