Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 12 Mehefin 2024
Mae aelod o Wasanaeth Prydiau Cymunedol Cyngor Torfaen wedi cael diolch am roi rhybudd pan welodd newid yn un o’i gleientiaid.
Roedd Adrian Herbert ar ei daith reolaidd pan ymwelodd â dyn 67 oed sy’n byw mewn cyfadeilad preswyl yn Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl.
Mae gan y dyn, sydd ag anabledd dysgu, diabetes math 2, ac mae hefyd yn dioddef o epilepsi.
Dywedodd Adrian, sydd wedi gweithio i’r gwasanaeth ers 4 blynedd, “Roeddwn i’n gwybod bod rhywbeth o’i le oherwydd doedd e ddim yn ei hwyliau arferol. Rydyn ni’n cael sgwrs fach fel arfer, ond roeddwn i’n gallwn i’n dweud nad oedd e fel ei hun arferol.
"Es i yn ôl fy ngreddf a galw ar aelod o’r teulu, a siaradodd gydag e a sylweddoli bod rhywbeth o’i le ac fe benderfynodd alw am ambiwlans. Roeddwn i’n falch fy mod i yno ar yr adeg gywir.”
Cafodd y dyn, y mae ei deulu wedi gofyn nad yw’n cael ei enwi, ei gludo i gychwyn i’r uned gofal dwys ac mae ei bod yn yr ysbyty am wyth wythnos, ond mae’n dod ymlaen yn dda.
Mae ei deulu, sy’n byw’n bell i ffwrdd, wedi estyn diolch o’r galon i’r gwasanaeth, gan ddweud pe na bai Adrian wedi gweithredu ar frys, y gallai’r canlyniadau wedi bod yn wahanol iawn.
Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Cyngor dros Oedolion a Chymunedau, David Leech: “Mae Adrian yn ymgorffori ysbryd ein gwasanaeth prydiau cymunedol. Gwnaeth ei feddwl chwim wahaniaeth gwirioneddol ac rydym yn falch o’i gael fel rhan o’r tîm.
“Mae’r gwasanaeth yn parhau i fod yn llinell bywyd i nifer o drigolion, gan sicrhau eu lles y tu hwnt i ddim ond pryd o fwyd cynnes. Mae nifer o deuluoedd yn Nhorfaen yn dibynnu ar y gwasanaeth prydiau fel llinell bywyd, gan wybod ein bod yn cadw llygad ar eu hanwyliaid.
“Mewn byd ble mae unigrwydd a bregusrwydd yn parhau, mae achos Adrian yn ein hysbrydoli ni i gyd i fod yn gymdogion mwy sylwgar, tosturiol a rhagweithiol. Mae’r math yma o ffordd o weithio yn rhan o’n Strategaeth Lles Cymunedol ehangach, ble rydym yn gweithio gyda, ac yn cefnogi trigolion, i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cydnerth.”
Mae'r Gwasanaeth Prydau Cymunedol, sy'n cael ei ddarparu gan y cyngor lleol, yn dosbarthu rhwng 30 a 40 o brydau maethlon y dydd i breswylwyr, 365 diwrnod y flwyddyn.
Cost pryd yw £6.30 am brif bryd a phwdin. Maen nhw hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer te gan gynnwys brechdanau a phwdinau wedi eu rhewi am gost ychwanegol.
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth prydiau cymunedol, cysylltwch â’r tîm trwy 01495 766373, danfonwch e-bost at socialservices.communitymeals@torfaen.gov.uk neu ewch i wefan Cyngor Torfaen.