Diolch i deulu sy'n ysbrydoli

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Mai 2025
Fostering 1

Mae pobl ifanc wedi bod yn rhannu'r effaith drawsnewidiol y mae maethu wedi'i chael ar eu bywydau, yn rhan o Bythefnos Gofal Maeth eleni.

Yn eu plith mae Chelsea, merch 20 oed o Gwmbrân, sy'n defnyddio’i llais i dynnu sylw at yr effaith drawsnewidiol y mae ei gofalwyr maeth, Steve a Sarah, wedi’i chael ar ei bywyd.

Aeth Chelsea i mewn i'r system ofal yn 2011, a chafodd sawl lleoliad maeth gwahanol cyn dod o hyd i gartref parhaol gyda theulu Steve a Sarah yn 2018.

Yno, meddai, y profodd sut deimlad oedd perthyn.

"Rwy'n cofio Sarah yn mynd â fi i siopa ac yn fy helpu i ddewis fy mhâr cyntaf o jîns wedi'u ffitio'n iawn."

"Efallai ei fod yn swnio fel rhywbeth bach, ond fe wnaeth i mi deimlo'n arbennig - fel merch i rywun, hyd yn oed os nad trwy waed. Roedd yn deimlad cynnes a hapus."

Arhosodd Chelsea gyda Steve a Sarah tan 2021, pan symudodd i fyw mewn llety lled-annibynnol. Mae hi'n dweud mai diolch i’w cefnogaeth a'u harweiniad diderfyn nhw y mae’n fenyw ifanc, hyderus heddiw.

"Yr amser a'r sylw a gefais ganddyn nhw - dysgu i mi beth oedd yn iawn a beth oedd ddim y iawn, gwrando arnaf, gwneud i mi deimlo'n rhan o'r teulu – gwnaeth hynny’n llythrennol drawsnewid fy mywyd. Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw hebddyn nhw."

Nawr, mae Chelsea yn annog eraill i ystyried maethu ac i ddeall y gwahaniaeth aruthrol y gall ei wneud.

"Er fy mod i wedi profi'r system ofal fy hun, alla’ i ddim aros am y diwrnod y bydda’ i’n dod yn ofalwr maeth. Os ydych chi'n meddwl am faethu - ewch amdani. Gallech chi newid bywyd rhywun, yn union fel newidiodd rhywun fy mywyd i."

Mae thema Pythefnos Gofal Maeth eleni, "Pŵer Perthnasoedd", yn dathlu'r cydberthnasau sy'n ffurfio rhwng gofalwyr maeth, plant, gweithwyr cymdeithasol, a'r gymuned faethu ehangach. Y perthnasoedd hyn yw'r llinyn aur sy'n rhedeg trwy bob taith faethu.

Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant mewn gofal ar hyn o bryd, ond dim ond tua 3,800 o deuluoedd maeth sydd yna. Nod Maethu Cymru yw recriwtio 800 o ofalwyr maeth ychwanegol erbyn 2026 i sicrhau bod mwy o blant fel Chelsea yn gallu profi sefydlogrwydd a chariad magwraeth gynnes mewn cartref.

Am ragor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i Maethu Yn Nhorfaen | Maethu Cymru Torfaen

Neu, gallwch gwrdd â'ch tîm Maethu Cymru Torfaen lleol ar ddydd Gwener olaf pob mis yn Llyfrgell Cwmbrân, rhwng 10am a 2pm.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/05/2025 Nôl i’r Brig