Lansio system raddio newydd ar gyfer gofal

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Ebrill 2025
Care Homes

Ar 1 Ebrill 2025, cyflwynodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) system raddio newydd ar gyfer gwasanaethau gofal ledled Cymru.

Nod y system newydd hon yw gwella tryloywder yn y sector gofal a helpu pobl i wneud dewisiadau mwy deallus am wasanaethau gofal.

Mae’r rheoleiddwyr, AGC yn archwilio cartrefi gofal a gwasanaethau gofal cartref. Mae adroddiad sydd ar gael i’r cyhoedd yn cael ei baratoi ar ôl pob arolygiad. Bydd hyn yn aros yr un fath ond y gwahaniaeth yw y bydd y gwasanaeth yn cael ei raddio, yn ogystal â derbyn adroddiad.

Rhaid i gartrefi gofal arddangos eu sgôr mewn lle amlwg wrth fynedfa’r safle, yn yr un modd ag y gwneir gyda sgoriau hylendid bwyd. Bydd gwasanaethau gofal cartref yn arddangos sgoriau yn eu swyddfa gofrestredig.

Daw’r graddio i rym yn dilyn pob arolygiad a gynhelir ar ôl 1 Ebrill, ac mae AGC yn dweud y bydd pob gwasanaeth wedi derbyn arolygiad a chael ei raddio ymhen dwy flynedd.

Bydd gwasanaethau gofal yn cael eu graddio yn ôl pedair thema allweddol:

  • Llesiant
  • Gofal a Chymorth
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Amgylchedd (i wasanaethau sy’n seiliedig ar lety yn unig)

Bydd pob thema yn derbyn un o bedair sgôr:

  • Rhagorol
  • Da
  • Angen gwelliant
  • Angen gwelliant sylweddol

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai, Cyngor Torfaen: “Fel cyngor, rydym yn comisiynu cartrefi gofal a lleoliadau gofal cartref o'r farchnad ddarparwyr, ac fel y gwnawn gyda'r adroddiadau arolygu, byddwn yn ystyried y sgoriau hyn wrth fynd ati i fonitro a sicrhau cydymffurfiaeth.

“Bydd y system raddio newydd yn ddefnyddiol i'r cyhoedd, yn enwedig y rheini sy’n ariannu eu hunain, gan y gallant ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau cymharol gyflym a deallus am y gwasanaethau gofal sydd orau i’w hanwyliaid."

Mae rhai gwasanaethau wedi'u heithrio rhag arddangos y poster graddio, yn cynnwys gwasanaethau i bobl o dan 18 oed, cartrefi gofal bach gyda phedwar preswylydd neu lai, a gwasanaethau cymorth cartref a ddarperir o gartrefi preifat.

I gael rhagor o wybodaeth am y system raddio newydd, ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.


 

Diwygiwyd Diwethaf: 04/04/2025 Nôl i’r Brig