Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023
Mae gwaith yn digwydd i dynnu nifer o goed a llwyni sy’n tyfu’n agos i Lynnoedd y Garn er mwyn gwneud gwaith atgyweirio a lleihau’r perygl o lifogydd.
Ers 2016, mae’r llynnoedd uwch ac is wedi eu dynodi’n gronfeydd dŵr ac, yn 2021, dynodwyd eu bod yn rhai perygl uchel gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Mae adolygiad gan Gyngor Torfaen wedi dod o hyd i broblemau diogelwch, gan gynnwys coredau wedi eu difrodi a gorchudd cerrig, sy’n helpu i atal erydiad, y mae angen eu hatgyweirio.
Mae’r adolygiad hefyd wedi nodi bod angen tynnu tua 250 o goed a llwyni o’r gorlifannau ac argaeau’r cronfeydd i sicrhau, os yw’r cronfeydd yn torri, na fydd y tyfiant yn blocio’r cwlferi cyfagos ac yn atal y dŵr rhag gwasgaru’n ddiogel.
Mae disgwyl i’r gwaith ddigwydd tan ddydd Gwener, Tachwedd 24 ond ni fydd yn effeithio ar ymwelwyr i’r safle.
Bydd coed yn cael eu plannu mewn mannau eraill yn y fwrdeistref yn lle’r rhai sy’n cael eu tynnu.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Hoffem ddiolch i’n tîm am eu gwaith diwyd wrth weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i leddfu’r risgiau yma mewn ffordd sy’n helpu i warchod yr amgylchedd ehangach."