Lansio grantiau cymunedol newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 21 Gorffennaf 2025
Hall in use

Mae cronfa wedi'i lansio i gefnogi grwpiau cymunedol i ddatblygu'r gefnogaeth maen nhw'n ei gynnig.

Mae'r cynllun Grantiau Dilyniant Cymunedol yn cynnig rhwng £500 a £40,000 i sefydliadau i helpu i wella adeiladau cymunedol, cefnogi neu ehangu prosiectau presennol neu i sefydlu rhai newydd mewn ymateb i angen lleol.

Gall y rhain gynnwys cynlluniau sy'n annog ffyrdd iach o fyw, lleihau ynysu cymdeithasol neu helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Y llynedd, rhoddodd rhaglen debyg 73 o grantiau i grwpiau, gan gynnwys Cymdeithas Gymunedol Cwmafon, a dderbyniodd grant o £18,342 i wella eu neuadd gymunedol, cynyddu diogelwch a datblygu'r neuadd at ddefnydd ehangach.

Dywedodd Phil Davis, o Gymdeithas Gymunedol Cwmafon: "Yn ystod misoedd cyntaf 2024 roeddem yn cynnal tua 20 o ddigwyddiadau ar gyfartaledd ac roedd tua 150 o bobl yn defnyddio'r neuadd bob mis.

"Eleni, rydym wedi cynnal tua 35 o ddigwyddiadau y mis, gyda thua 300 o bobl yn defnyddio'r neuadd bob mis.

"Mae'r gwelliannau wedi arwain at ymdeimlad o fwy o ddiogelwch a lles, ac wedi caniatáu inni gynnig mwy o gyfleusterau tra'n dod yn fwy cynaliadwy yn ariannol."

Dywedodd y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Mae gwaith sefydliadau fel Cymdeithas Gymunedol Cwmafon yn amhrisiadwy i'w cymunedau.

"Gall gweithgareddau a gyflwynir o fewn a gan gymuned leol fod yn ffordd wirioneddol effeithiol o rymuso trigolion i fod yn weithgar ac yn annibynnol, ac mae'r grant wedi'i anelu at gefnogi hyn. Mae hyn yn gyson â'n Strategaeth Llesiant Cymunedol ac Amcanion Llesiant y Cynllun Sir."

Mae'r Gronfa Dilyniant Cymunedol wedi derbyn £450,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gall sefydliadau wneud cais am grantiau cyfalaf o hyd at £20,000 i wella adeiladau neu brynu offer, a grantiau refeniw o hyd at £20,000 i gyflawni gweithgareddau. Gellir gwneud ceisiadau am grantiau cyfalaf a refeniw, neu refeniw yn unig.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 8am ddydd Llun 18 Awst 2025. I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen gais, anfonwch e-bost at CommunityResilienceGrants@torfaen.gov.uk



Diwygiwyd Diwethaf: 21/07/2025 Nôl i’r Brig