Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025
Bydd Parc Pont-y-pŵl yn cynnal ras Relay for Life Cancer Research UK y penwythnos yma.
Mae ugain o dimau wedi cofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiad 24 awr o hyd, sy’n codi arian hanfodol i helpu’r frwydr yn erbyn cancr.
Bydd tîm o 28 o Gyngor Torfaen yn cymryd rhan am yr ail flwyddyn ar ôl codi bron i £7,500 llynedd.
Dywedodd capten Tîm Torfaen, Nicola Cheshire, uwch ddadansoddydd gwybodaeth a diogelwch yng Nghanolfan Adnodau a Rennir y cyngor: “Mae pawb sy’n cymryd rhan wedi eu cyffwrdd gan gancr mewn rhyw ffordd, felly rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi Cancer Research UK gyda’r her yma.
“Rydym ni eisoes wedi cynnal casgliadau mewn archfarchnadoedd ac wedi gwerthu cacennau, ac rydym yn cynllunio digwyddiad codi arian yng Nghlwb Rygbi Tal-y-waun fis Medi.”
Bydd y ras yn dechrau am 11am ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, gyda thimau’n rhedeg, yn loncian neu’n cerdded yn eu tro o gwmpas y parc tan 11am y diwrnod canlynol.
Bydd y diwrnod yn cynnwys adloniant i bob oedran, gyda thua 50 o stondinau, a gwerthwyr bwyd a diod ar y safle, yn ogystal â sioe gŵn, gemau a cherddoriaeth gan berfformwyr lleol.
Am 9:30pm, bydd oedi’r digwyddiad ar gyfer seremoni Cannwyll Gobaith ble bydd pobl yn cynnau canhwyllau fel teyrnged i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan gancr.
Bydd y canhwyllau wedyn yn cael eu harddangos ar hyd y llwybr mewn bagiau y mae modd eu prynu o babell Relay for Life a’u haddurno er cof rhywun annwyl.
Dywedodd Leanne Powell, Trefnydd y digwyddiad a Chadeirydd Relay for Life: "Mae’r ras yn ymwneud â chreu cymuned cancr i’n hardal. Grŵp o bobl sy’n dod ynghyd trwy gydol y flwyddyn dros yr un achos – cefnogi ei gilydd, lledaenu gobaith a chodi arian i drechu cancr.
“Rydym yn gwahodd pawb yn y gymuned leol i alw heibio ar y diwrnod i gefnogi a phrofi hud y Ras.”
Ras Gyfnewid Parc Pont-y-pŵl yw un o ddwy ras yng Nghymru, sydd wedi codi £534,129 ers ei lansio yn 2016.
Mae pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu lwybrau teithio llesol i fynd i’r digwyddiad, ond bydd parcio ar gael ym Mharc Pont-y-pŵl ac yn gyfagos.
Am fwy o wybodaeth am y Ras , neu i roi arian, ewch i: Relay For Life Pontypool 2025 | Cancer Research UK