Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Tachwedd 2023
Mae rhieni plentyn a oedd yn absennol yn barhaus o’r ysgol wedi cael eu herlyn gan Gyngor Torfaen.
Rhwng Ebrill 2023 a Gorffennaf 2023, roedd y plentyn yn bresennol 62 y cant o’r amser. Targed y cyngor yw 95 y cant.
Ar ddydd Iau, cafodd y rheini eu herlyn yn Llys Ynadon Cwmbrân am fethu â sicrhau bod eu plentyn yn mynd i’r ysgol yn rheolaidd a chawson nhw ddirwy o £440 yr un, a’u gorchymyn i dalu costau o £60 a gordal dioddefwyr o £176.
Clywodd y llys fod y teulu wedi cael cynnig cryn dipyn o gefnogaeth gan yr ysgol a gwasanaethau eraill, gan gynnwys gofal cymdeithasol a thai.
Cafodd y rheini gynnig cyfarfodydd rheolaidd gyda chymorth helaeth gan dîm swyddogion ymgysylltiad teuluol yr ysgol, gan gynnwys cymorth i gael y disgybl i’r ysgol a pharseli bwyd.
Cafodd y llys wybod bod y teulu’n anghyson wrth ymgysylltu â’r ysgol a’r asiantaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg ac rydym yn erlyn fel cam olaf. Byddwn bob amser yn ceisio gweithio gyda theuluoedd i roi cefnogaeth benodol i sicrhau bod eu plant yn mynd i’r ysgol.
"Felly, rwy’n falch bod y llys wedi cydnabod y cymorth helaeth a gynigiwyd gan yr ysgol a’r Gwasanaeth Lles Addysg i’r plentyn yma a’u rheini.
"Dyma’r achos cyntaf i fynd i’r llys ers i ni gyflwyno ein polisi presenoldeb newydd yn gynharach eleni a byddwn yn parhau i gefnogi’r teulu, yn ogystal ag eraill a allai fod ag angen ein cymorth."
Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, cynyddodd cyfraddau presenoldeb yn yr ysgolion cynradd un y cant, a thri y cant mewn ysgolion uwchradd.
Ym Mawrth, cyflwynodd y Cyngor bolisi presenoldeb newydd sy’n cynnwys y defnydd o Hysbysiadau o Gosb Benodol gan ysgolion ar gyfer absenoldebau heb awdurdod.
Ers hynny, rhoddwyd 66 Hysbysiad yn Nhorfaen.
Gall Hysbysiad gael ei roi pan fo o leiaf 10 sesiwn o absenoldeb heb awdurdod neu bum diwrnod ysgol, ble mae plentyn yn hwyr yn gyson neu ble mae rhieni’n gwrthod ymgysylltu â’r ysgol er mwyn gwella lefelau presenoldeb eu plentyn yn yr ysgol.
Mewn achosion mwy difrifol, gellir penderfynu erlyn yn hytrach na rhoi Hysbysiad. Gall methu â thalu Hysbysiad o Gosb Benodedig hefyd arwain at achos llys.
Ewch at ein gwefan am fwy o wybodaeth am bresenoldeb mewn ysgolion yn Nhorfaen.