Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21 Mawrth 2023
Members of Torfaen Council stood in front of the We Care Wales branded bus
Mae bws sy’n ceisio helpu pobl sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector gofal wedi cychwyn ar ei daith yn Nhorfaen heddiw.
Bydd bws Gofalwn Cymru yn treulio chwe mis yn teithio ar draws Gwent fel rhan o ymgyrch recriwtio gan awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
I gyd-fynd â Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd, treuliodd y bws y diwrnod cyntaf ym maes parcio Morrisons, yng Nghwmbrân, ble cafodd aelodau’r cyhoedd gyfle i siarad â staff Cyngor Torfaen a darparwyr gofal lleol am hyfforddiant lleol a chyfleoedd am swyddi.
Dywedodd Jason O’Brien, Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Torfaen a Chadeirydd Bwrdd Gweithlu Rhanbarthol Gwent: “Mae bws Gofalwn Cymru’n fenter gyffrous i Went. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dod ag amrywiaeth eang o gyflogwyr gofal cymdeithasol ynghyd a dangos i drigolion y rolau amrywiol a gwerth chweil sydd gan y sector i’w cynnig.
“Does dim ffordd well o ddysgu am yrfaoedd mewn gofal cymdeithasol na dod i gael sgwrs gyda’r rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y sector.”
Mae’r bws wedi cael ei ariannu gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, mewn partneriaeth â Gofalwn Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Am restr lawn o ddyddiadau ac amserau a ble fydd y bws – a swyddi gwag sydd ar gael nawr – ewch at wefan Gofalwn Cymru.