Wedi ei bostio ar Dydd Iau 22 Mehefin 2023
Mae arddangosfa sy'n dathlu hanes Cenhedlaeth y Windrush yng Nghymru wedi dod i Dorfaen.
Mae Arddangosfa Windrush Cymru yn cofnodi cyflawniadau a chyfraniadau'r rhai a ymgartrefodd yn y DU o'r Caribî yn ogystal â'u disgynyddion.
Mae’n cynnwys Sean Wharton, y cyn-bêl-droediwr proffesiynol o Gwmbrân, y teithiodd ei rhieni i Brydain o St Kitts.
Dywedodd: "Mae gen i ymdeimlad cryf o berthyn i'r Caribî ac ymdeimlad cryf o berthyn i Gymru ar yr un pryd.
"Nid wyf yn credu y dylem ddiystyru’r gwaith caled a wnaed gan yr hynafwyr er mwyn i ni allu gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud heddiw. Er nad oedd yn hawdd, cafodd Cenhedlaeth y Windrush effaith sylweddol ar ein cymunedau a'n cymdeithas.”
Mae heddiw yn nodi 75 mlynedd ers i’r teithwyr cyntaf gyrraedd ar Empire Windrush – achlysur a elwir erbyn hyn yn Ddiwrnod Cenedlaethol Windrush.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor: "Mae’r storïau a’r lluniau sy’n ymddangos yn yr arddangosfa yn gwneud i un sylweddoli pa mor aruthrol oedd cyfraniad y genhedlaeth Windrush i fywyd a diwylliant Cymru dros y blynyddoedd.
"Daeth llawer yma i weithio yn ein hysbytai a’n gwasanaeth iechyd, a mawr yw ein dyled a’n diolch iddynt hwy a’u teuluoedd."
Mae arddangosfa Race Council Cymru, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, yn cynnwys hanesion mwy na 40 o bobl o Genhedlaeth y Windrush.
Mae’r arddangosfa’n agored am ychydig fisoedd mewn pum lleoliad:
* Canolfan Ddinesig Pont-y-pŵl
* Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl
* Llyfrgelloedd Blaenafon, Cwmbrân a Phont-y-pŵl
Gwahoddir pobl i ymweld ag arddangosfa Windrush yn ystod oriau agor. Trefnir teithiau ar gyfer ysgolion lleol a grwpiau cymunedol.
I weld amseroedd agor lleoliadau ewch i'n gwefan.
I glywed mwy am stori Sean Wharton, gallwch wrando ar Lleisiau’r Cymoedd – cyfres podlediad Cyngor Torfaen.