Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 30 Awst 2023
Mae’r nifer fwyaf eto o wirfoddolwyr wedi helpu rhoi oriau o hwyl am ddim i filoedd o blant yr haf hwn.
Mae cyfanswm o 163 o wirfoddolwyr – pump y cant yn fwy na’r llynedd – wedi gweithio gyda 176 aelod o staff y Gwasanaeth Chwarae i ddarparu mis o raglen o weithgareddau difyr ar gyfer 2,831 o blant - 300 yn fwy na’r llynedd.
Ddydd Gwener, diolchwyd i staff a gwirfoddolwyr mewn seremoni wobrwyo yn Theatr Congress, yng Nghwmbrân. Yn eu plith roedd Max Griffiths, a enillodd y Wobr Cyrhaeddiad Hirdymor am wirfoddoli i’r Gwasanaeth Chwarae a gweithio iddo am y 10 mlynedd ddiwethaf.
Meddai: "Dechreuais wirfoddoli i’r Gwasanaeth Chwarae pan oeddwn i’n 15 mlwydd oed ac mae wedi bod yn hollol anhygoel.
"Ers hynny rydw i wedi dringo trwy’r rhengoedd ac wedi gweithio fel gweithiwr chwarae ac yna goruchwylydd safle, ac mae wedi fy sbarduno i ddechrau hyfforddi i fod yn athro ysgol gynradd. Dydw i ddim yn meddwl y byddai hynny wedi bod yn bosibl heb Wasanaeth Chwarae Torfaen.
"Os ydych chi’n ystyried dod yn wirfoddolwr ifanc yna buaswn i’n argymell y Gwasanaeth Chwarae yn uchel, oherwydd mae wedi newid fy mywyd."
Cynhaliwyd mwy nag 20 sesiwn chwarae bob dydd ar draws y fwrdeistref y mis hwn, yn rhan o Ŵyl Hwyl yr Haf y Gwasanaeth Chwarae eleni.
Roedden nhw’n cynnwys 13 gwersyll Bwyd a Hwyl a oedd yn cael eu rhedeg mewn partneriaeth â Gwasanaeth Arlwyo Cyngor Torfaen, sesiynau seibiant arbenigol a chynlluniau chwarae mynediad agored.
Mae’r Gwasanaeth hefyd yn trefnu wythnos o sesiynau hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr, ac fe enillodd lawer ohonynt dystysgrifau hyfforddiant cymorth cyntaf ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae’r Gwasanaeth Chwarae wedi darparu dros ddwy fil o oriau o hwyl am ddim yr haf hwn ac mae hynny’n gyrhaeddiad anhygoel.
"Ni allwn or-ddweud cymaint o waith sy’n mynd i mewn i recriwtio ar gyfer y sesiynau hyn, eu trefnu a’u cynnal, ac rwy’n ddiolchgar i bob aelod o staff a gwirfoddolwr sydd wedi cynnal Gŵyl Hwyl yr Haf eleni, yn ogystal â’r plant a’r teuluoedd sydd wedi ei chefnogi.
“Mae gwaith y Gwasanaeth Chwarae yn cefnogi amcanion llesiant Cynllun Sirol y cyngor i gefnogi plant a phobl ifanc i ennill sgiliau ac i ffynnu."
Ychwanegodd Julian Davenne, Rheolwr y Gwasanaeth Chwarae: "Mae’r Gwasanaeth Chwarae fel un teulu, ac roedden ni’n falch iawn o weld 40 o wirfoddolwyr yn dychwelyd yr haf hwn. Allen ni ddim gwneud hyn hebddynt ac fe fyddwn ni’n dechrau recriwtio fis Ionawr ar gyfer yr haf nesaf.”
"Ni fyddai’n bosibl cynnal nifer y sesiynau rydyn ni’n eu cynnal heb ein partneriaid chwaith, ac mae’r rheiny’n cynnwys y tîm arlwyo, TOGS, y tîm nyrsio cymunedol, ysgolion a llawer mwy, ac felly diolch yn fawr iddyn nhw hefyd."
Darllenwch fwy am Wasanaeth Chwarae’r cyngor.
Gwasanaeth Chwarae'n rhoi cannoedd o flychau bwyd.