Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Hydref 2022
Bydd Apêl Siôn Corn Torfaen 2022 yn agor ar gyfer rhoddion ar ddechrau’r mis nesaf.
Llynedd, cafodd bron i 800 o anrhegion a basgedi bwyd eu rhoi i dros 200 o blant a phobl ifanc a oedd cael eu cefnogi gan Dimau Plant a Theuluoedd Torfaen.
Yn ogystal ag anrhegion, gall trigolion ddewis rhoi cardiau anrheg ar gyfer stryd fawr eleni, a fydd naill ai’n cael eu rhoi i deuluoedd a phobl ifanc, neu’n cael eu defnyddio gan y timau i brynu anrhegion ar eu rhan.
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau: "Dyma’r 15fed flwyddyn i ni gynnal Apêl Siôn Corn Torfaen, a phob blwyddyn rydyn ni’n cael ein synnu pa mor hael yw trigolion.
"Rydym yn deall bod nifer o bobl a theuluoedd efallai’n bwriadu gwario llai'r Nadolig yma oherwydd y cynnydd mewn costau byw, ond rydym yn gwybod y bydd y plant a theuluoedd yr ydym yn eu cefnogi yn ddiolchgar am beth bynnag yr ydych yn gallu fforddio."
Bydd Apêl Siôn Corn Torfaen 2022 yn agor ddydd Mercher, 2 Tachwedd ac yn mynd tan ddydd Iau 1 Rhagfyr. Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu derbyn rhoddion ar ôl y dyddiad yma.
I roi anrheg neu daleb, ffoniwch 01633 647539 os gwelwch yn dda, o ddydd Llun i ddydd Iau, rhwng 9.00am a 4.00pm.
Byddwn yn rhoi oedran a rhywedd plentyn neu berson ifanc i chi, a rhif cyfeirnod, a bydd angen i chi atodi hyn wrth yr anrheg neu daleb. Nid ydym yn gallu rhoi enwau bellach oherwydd canllawiau diogelu Data.
Gall anrhegion – y mae angen iddyn nhw fod heb eu lapio – a thalebau gael eu gadael yn y mannau canlynol:
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, Canol Tref Pont-y-pŵl, Market Street, Pont-y-pŵl, NP4 6JN
Dydd Llun: 8.00am – 2.00pm
Dydd Mawrth a Dydd Gwener: 8.00am – 5.00pm
Dydd Sadwrn: 8.00am – 4.00pm
Co-star, Neuadd Gymunedol y Pishyn Tair, Cwmbrân, NP44 4SX
Dydd Llun: 10.00am – 2.00pm
TYPSS, The Studio, Ystâd Fusnes Oldbury, Cwmbrân NP44 3JU.
Dydd Mawrth: 9.00am – 5.00pm
Canolfan Siopa Cwmbrân, Desg Gwasanaethau Cwsmeriaid (wrth Specsavers/Wilkingsons)
Dydd Mawrth: 1.30pm – 4.00pm
Y Ganolfan Ddinesig, Glantorvaen Road, Pont-y-pŵl, NP4 6YN.
Dydd Mawrth a Dydd Iau: 10.00am – 2.30pm
Circulate, Blaenafon
Dydd Mawrth a Dydd Iau: 10.00am -2.00pm
Partneriaeth Garnsychan, 55 Stanley Road, Garndiffaith, NP4 7LH
Dydd Iau: 11.00am -3.00pm
Mae’r talebau sy’n cael eu hargymell ar gyfer plant iau yn cynnwys talebau Argos, Smyths neu Entertainer. Argymhellir talebau Love2Shop neu One4All, sydd ar gael o archfarchnadoedd a Swyddfa’r Post, ar gyfer plant yn eu harddegau a phobl ifanc.
Gallwch hefyd roi bwyd nad yw’n ddarfodus a fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud basgedi i bobl ifanc 16 oed a throsodd sy’n byw ar eu pennau eu hunain.