Wedi ei bostio ar Dydd Iau 13 Mehefin 2024
Daeth dros 50 o ofalwyr di-dâl o bob rhan o Dorfaen at ei gilydd i gymryd rhan mewn taith gerdded 5K i nodi Wythnos Gofalwyr.
Trefnwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Llyn Cychod Cwmbrân ddydd Mercher, gan wasanaeth gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion y Cyngor, gyda'r nod o feithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith gofalwyr.
Ar ôl y daith, cawsant fwynhau lluniaeth a cherddoriaeth fyw gan y band drymio Affricanaidd 'Up Beat' fel diolch am bopeth maen nhw'n ei wneud yn eu rolau gofalu.
Mae Isabel, 17, o Gwmbrân, a fu ar y daith gerdded, yn gofalu am ei mam a'i mam-gu a thad-cu trwy eu helpu i fynd o le i le, casglu meddyginiaeth a’u helpu i gadw trefn ar eu cartref.
Meddai, "Roedd y daith gerdded ar gyfer wythnos gofalwyr yn wych! Fe wnaeth dynnu pob un ohonon ni sy'n ofalwyr at ei gilydd i rannu amser a chreu cysylltiadau newydd. Cawsom gyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithdy drymio difyr.
"Mae cefnogaeth y gwasanaeth gofalwyr ifanc yn fy ngalluogi i gyflawni fy nghyfrifoldebau fel gofalwr ifanc, gan sicrhau ar yr un pryd fy mod yn cael seibiannau a chyfleoedd newydd."
Dywedodd Christine Simmonds o Gwmbrân, sy'n gofalu am ŵr sydd â dementia:
"Roedd yn drefnus iawn ac roedd yn hyfryd gweld y plant yn cael cymaint o hwyl. Dwi wedi cael cefnogaeth gofal cymdeithasol i oedolion ers blynyddoedd lawer ac mae wedi bod o gymorth mawr".
"Rwy'n gobeithio y bydd digwyddiadau fel hyn yn taflu goleuni ar ofalwyr di-dâl gan nad yw llawer yn deall sut brofiad ydyw mewn gwirionedd."
I ddathlu'r thema eleni, sef rhoi gofalwyr di-dâl ar y map, mae'r gwasanaeth yn casglu ffotograffau o ofalwyr lleol at ei gilydd, i'w harddangos ar fap o Dorfaen.
Mae gan ofalwyr tan ddydd Sul i gyflwyno eu lluniau ar dudalennau Facebook Oedolion Oedolion Torfaen a Gofalwyr Ifanc Torfaen.
Meddai Louise Hook, Gweithiwr Cymorth Gofalwyr Cyngor Torfaen: "Mae Wythnos Gofalwyr yn gyfle gwych i ni ddathlu gofalwyr di-dâl a diolch iddyn nhw am eu gwaith caled a'u hymroddiad.
Mae gofalwr di-dâl yn rhywun sy'n darparu gofal a chymorth i aelod o'r teulu, ffrind neu gymydog na all ymdopi heb ei gymorth.
Gall y gofal hwn gynnwys cymorth corfforol, emosiynol neu ymarferol i unigolion sy'n sâl, yn anabl, yn hŷn neu'n wynebu pryderon iechyd meddwl.
Os ydych chi’n ofalwr di-dâl ac mae angen cymorth ariannol ychwanegol arnoch, gallwch wneud cais am y Grant Bach i Ofalwyr. Ewch i wefan Adferiad am wybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymorth i ofalwyr a gynigir gan y Cyngor, cysylltwch â'r Swyddog Gofalwyr sy’n Oedolion Louise Hook ar 07966 301108 neu louise.hook@torfaen.gov.uk neu'r Swyddog Gofalwyr Ifanc, Rebecca Elvers ar 01633 648113.