Wedi ei bostio ar Dydd Iau 27 Ionawr 2022
Mae plant o ysgolion cynradd o bob cwr o Dorfaen wedi bod yn cofio Anne Frank, y ferch Iddewig yn ei harddegau sy’n enwog am ei dyddiaduron teimladwy am fywyd yn cuddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r disgyblion wedi bod yn ysgrifennu llythyrau at y ferch, a ddioddefodd yn sgil yr holocost, fel rhan o gyfres o weithgareddau i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost.
Y thema eleni yw Un Diwrnod, sy’ anelu i ysbrydoli pawb i ddysgu mwy am y gorffennol, cydymdeimlo ag eraill heddiw, a chymryd camau i greu dyfodol gwell.
Mae disgyblion o bob grŵp blwyddyn wedi bod yn ysgrifennu eu llythyrau eu hunain at Anne Frank, yn mynegi eu meddyliau a’u teimladau am unigrwydd ac arwahanrwydd, a phwysigrwydd derbyn a dathlu eu gwahaniaethau.
Bydd enghreifftiau o rai o lythyrau a gwaith celf disgyblion yn cael eu harddangos mewn llyfrgelloedd ar draws Torfaen o heddiw ymlaen.
Dywedodd Holly, disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Ponthir: “Mae’r hyn a ddigwyddodd i Anne Frank yn drist iawn, rwy’n meddwl ei bod hi’n ddewr iawn am guddio am 2 flynedd.”
Ychwanegodd Pippa, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 4: “Roeddwn i’n hoffi cymharu ein bywydau ni â bywyd Anne, gan edrych ar y cyfnod clo diweddar a sut oedd hyn yn cymharu â hi yn cuddio.”
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn cofio dioddefwyr yr Holocost dan erledigaeth y Natsïaid a’r hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Bydd Cyngor Torfaen hefyd yn coffáu Diwrnod Cofio’r Holocost drwy oleuo Stadiwm Cwmbrân mewn porffor fel gweithred o undod â’r dioddefwyr.
Dywedodd y Cynghorydd David Yeowell, Aelod Gweithredol dros Reoli Corfforaethol a Pherfformiad yn Nhorfaen: “Mae Diwrnod Cofio’r Holocost wedi dod yn un o’r dyddiadau rheolaidd yn nyddiadur y cyngor. Fodd bynnag, mae’n gymaint mwy na chynulliad blynyddol arall.
“Rydyn ni i gyd yn rhannu’r cyfrifoldeb i sicrhau na all camgymeriadau yn hanes byth gael eu hailadrodd. Er mwyn gwneud hyn mae'n rhaid i ni annog cenedlaethau'r dyfodol i gydnabod a pharchu etifeddiaeth y rhai a ddioddefodd erchyllterau, caledi ac amarch y cyfnodau tywyllaf.
“Hanfod y coffáu yw cofio ac wrth wneud hynny, rydym yn sicrhau na fyddwn byth yn anghofio’r gorffennol.”
Mae gwefan HMDT yn adnodd gwych i athrawon a rhieni sydd am addysgu eu disgyblion a’u plant i ddysgu’r gwersi o’r gorffennol mewn ffyrdd creadigol, adfyfyriol ac ysbrydoledig.
I gymryd rhan, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost: https://www.hmd.org.uk/take-part-in-holocaust-memorial-day/