Wedi ei bostio ar  Dydd Gwener 9 Chwefror 2024
		
Bydd digwyddiad i hyrwyddo bwyd a gynhyrchir yn lle yn cael ei gynnal ym Mlaenafon y mis yma.  
Dyma’r Gynhadledd Fwyd gyntaf, wedi ei threfnu gan dîm gwydnwch bwyd Cyngor Torfaen, i’w chynnal yn y fwrdeistref a bydd yn tynnu ynghyd cynhyrchwyr, cyflenwyr a sefydliadau i helpu i ddatblygu rhwydweithiau lleol a rhannu arferion cynaliadwy.   
Bydd trigolion yn cael cyfle hefyd i gwrdd â rhai o’r cyflenwyr, cael cyngor ar sut i leihau gwastraff bwyd a blasu cyri am ddim.  
Bydd cynhyrchwyr bwyd, cyflenwyr a sefydliadau lleol sy’n ceisio taclo tlodi bwyd, yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad i fusnesau yn gynharach yn y dydd gyda’r bwriad o hyrwyddo a rhannu arfer cynaliadwy da.  
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Rydym wrth ein bodd o fod yn cynnal Cynhadledd Fwyd gyntaf Torfaen, gan dynnu ynghyd busnesau, sefydliadau cymunedol ac unigolion sy’n frwd o blaid creu dyfodol bwyd mwy cynaliadwy.  
"Bydd y digwyddiad yma’n rhoi cyfle unigryw i rwydweithio, dysgu a chydweithio, ac rydym yn annog pawb i ymuno â ni yn y sgwrs bwysig yma."  
Bydd y Gynhadledd Fwyd yn cael ei chynnal yn Neuadd y Gweithwyr, Blaenafon ar ddydd Iau 22 Chwefror, gyda rhan gyntaf y diwrnod wedi ei hanelu at fusnesau a sefydliadau.   I gael dod, cysylltwch â Food4Growth@torfaen.gov.uk  
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ddod i’r digwyddiad am ddim rhwng 3.30pm a 7pm.  
Mae’r Rhaglen Gwydnwch Bwyd wedi derbyn £991,426 gan Lywodraeth y DU trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.  
Bwriad y rhaglen yw cynyddu faint o fwyd fforddiadwy sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol a chael hyd i ffyrdd cynaliadwy o daclo tlodi bwyd trwy’r Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy.    
Darllenwch fwy am y Rhaglen Gwydnwch Bwyd