Cefnogwch y frwydr yn erbyn canser

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Mehefin 2024
Relay for life

Fe fydd Parc Pont-y-pŵl yn cynnal y 7fed digwyddiad Relay for Life blynyddol ar gyfer Cancer Research UK, fis nesaf.

Mae 19 o dîmau wedi cofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiad 24-awr, sy'n anelu at godi dros £50,000 i helpu yn y frwydr yn erbyn canser.

Eleni, bydd tîm o Gyngor Torfaen yn cymryd rhan am y tro cyntaf. Dywedodd capten y tîm a Rheolwr Etholiadau’r Cyngor, Caroline Genever-Jones: "Mae tri deg pump o gydweithwyr wedi cofrestru i fod yn rhan o'r tîm ac mae eraill wedi dweud y byddan nhw'n ymuno â ni yn ystod y digwyddiad.

"Mae canser wedi cyffwrdd â phawb sy'n cymryd rhan mewn rhyw ffordd ac rydym yn falch o allu cefnogi Ymchwil Canser fel hyn."

Bydd y ras gyfnewid yn dechrau am 11am ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf a bydd timau'n cymryd eu tro i redeg, loncian neu gerdded lapiau thema o amgylch y parc tan 11am y diwrnod canlynol.

Bydd dros 50 o stondinau crefftau, bwyd a losin ar gael i ymwelwyr eu mwynhau, yn ogystal â sioe gŵn a gêmau a cherddoriaeth gan ddoniau lleol.

Bydd dau wyddonydd o Cancer Research UK yn bresennol hefyd i bobl gael trafod y wyddoniaeth y tu ôl i waith CRUK.

Am 9:30pm, bydd y digwyddiad yn oedi ar gyfer seremoni Cannwyll Gobaith yn y bandstand a bydd cyfranogwyr yn goleuo canhwyllau bach fel teyrnged i unrhyw un y mae canser wedi effeithio arnynt.

Yna, bydd y canhwyllau'n cael eu harddangos ar hyd y llwybr mewn bagiau, a gellir prynu’r bagiau o'r babell Relay for Life a'u haddurno i gofio am anwyliaid.

Meddai Leanne Powell, Trefnydd a Chadeirydd Gwirfoddol y Digwyddiad: "Mae’r digwyddiad yn golygu creu cymuned ganser ar gyfer ein hardal. Grŵp o bobl sy'n tynnu at ei gilydd trwy gydol y flwyddyn dros yr un achos - i gefnogi ei gilydd, lledaenu gobaith a chodi arian i guro canser.

"Mae ychydig yn hwyr i gofrestru tîm ar gyfer y digwyddiad eleni, ond mae croeso cynnes i bawb yn y gymuned leol i ddod draw ar y diwrnod i gefnogi a phrofi hud y digwyddiad. Efallai y bydd hyd yn oed yn eich ysbrydoli i ymuno â thîm ar gyfer y digwyddiad y flwyddyn nesaf."

Mae Relay for Life Parc Pont-y-pŵl yn un o ddau ddigwyddiad cyfnewid yng Nghymru ac mae wedi codi bron i £500,000 ers iddi ddechrau yn 2016.

Mae pobl yn cael eu hannog i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ddefnyddio llwybrau teithio llesol i ddod i’r digwyddiad, ond mae parcio ar gael ym Mharc Pont-y-pŵl a maes parcio gorlif gerllaw. 

Am ragor o wybodaeth am y Ras Gyfnewid neu i gyfrannu rhodd, ewch i: Relay For Life - Pontypool 2024 - JustGiving
Diwygiwyd Diwethaf: 24/06/2024 Nôl i’r Brig