Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Ebrill 2022
Bydd Wythnos Ymwybyddiaeth Parkinson yn dechrau ddydd Llun ac, i nodi’r achlysur, mae trigolion sy’n dioddef o’r cyflwr, yn cael eu gwahodd i ddod i grŵp cymorth lleol am ddim.
Mae’r grŵp cymorth Clefyd Parkinson yn cwrdd pob trydydd dydd Iau’r mis, 2:30pm, yn y Caban Coed ym Mhen-y-garn.
Y mis yma, maen nhw wedi trefnu te parti am ddim i aelodau newydd a phresennol a’u gofalwyr fynychu.
Bydd y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl yn cael ei goleuo’n las yr wythnos hefyd er mwyn codi ymwybyddiaeth ymhellach.
Y thema eleni yw Iechyd Meddwl gyda Chlefyd Parkinson a Gofal Parkinson.
Cafodd ei ysbrydoli gan y ffaith fod hyd at 50% o bobl â chlefyd Parkinson yn dioddef o bryder neu iselder ar ryw adeg yn ystod y clefyd.
Bydd Support UK yn lansio’u Hwb Cefnogaeth Iechyd Meddwl Parkinson, yn benodol i bobl â chlefyd Parkinson.
Oherwydd nad oes gwellhad i glefyd Parkinson, mae’r ymgyrch yn gobeithio gwella ansawdd bywyd a sicrhau bod pobl yn byw’n well yn hirach.
I roi neu i godi arian i gefnogi unrhyw faes, ewch i http://www.parkinsonscare.org.uk/donate
Mae Ebrill hefyd yn fis am godi ymwybyddiaeth bellach o gancr y coluddyn.
Pob 15 munud mae rhywun yn cael diagnosis o gancr y coluddyn yn y DU, dyna bron i 43,000 o bobl y flwyddyn.
Mae’r ymgyrch am gefnogi pawb sy’n cael eu heffeithio gan y cyflwr, gan adael i’w lleisiau gael eu clywed a gyrru newid cadarnhaol trwy hyrwyddo diagnosis cynnar ac ymgyrchu dros y driniaeth a’r gofal gorau.
I gefnogi a chanfod mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch i: Bowel Cancer UK