Trefeillio
Mae Cyngor Torfaen wedi'i efeillio â Karlsruhe yn Yr Almaen. Mae hwn yn drefniant gefeillio ar y cyd â Chyngor Sir Fynwy a ddechreuodd ym mis Hydref 1998. Mae trefeillio'n ffordd wych o feithrin cyfeillgarwch hirdymor rhwng cymunedau. Mae'n bwysig bod pobl o gymunedau a chefndiroedd gwahanol ledled Ewrop yn estyn allan i'w gilydd ac yn dysgu mwy am ddiwylliannau eraill a ffyrdd eraill o fyw.
Mae Karlsruhe wedi'i leoli yn Nyffryn Rhein yn Yr Almaen, yn agos at y Fforest Ddu a'r ffin â Ffrainc. Mae'n ddinas fodern, uwch-dechnolegol a 'gwyrdd' sydd heb ei hail o ran diwydiannau technolegol, busnes, y gyfraith a sefydliadau academaidd.
Yn ôl y chwedl, roedd y Ffiniarll Karl Wilhelm yn gorwedd o dan goeden yn ystod trip hela, ac fe gafodd freuddwyd a'i hysbrydolodd i adeiladau palas. Mae palas, neu 'Schloss', o'r 18fed ganrif yno o hyd, ynghyd â ffyrdd unigryw wedi'u cynllunio mewn siâp bwa yn arwain ato. Parhaodd y pensaer enwog, Weinbrenner, i berffeithio cynllun y ddinas. Mae llawer o'i adeiladau'n uchafbwyntiau o glasuriaeth yn Karlsruhe hyd heddiw, gan gynnwys y pyramid tywodfaen, a adeiladwyd ym 1823, sy'n gartref i olion Karl Wilhelm ac sydd wedi dod yn symbol ar gyfer y ddinas. Mae gerddi mawr, parciau a fforestydd yn denu ymwelwyr a thrigolion lleol, fel ei gilydd.
Ymhlith y sefydliadau addysgol yn Karlsruhe y mae'r brifysgol peirianneg hynaf yn Yr Almaen, sef 'Fridericiana', a sefydlwyd ym 1825. Hon yw'r gyfadran Technoleg Gwybodaeth fwyaf blaenllaw yn Yr Almaen. Cafodd yr Academi Gelf gydnabyddiaeth debyg trwy enwau fel Feuerbach, Thoma a Hofer. O ganlyniad i'w lleoliad ffafriol ar lannau afon Rhein, datblygodd diwydiant yn gyflym, ac mae'r diwydiannau trydanol a phetroliwm yn chwarae rhan bwysig, ynghyd â deunydd fferyllol, prosesu bwyd a thecstilau. Yn fwy diweddar, enillodd Karlsruhe y teitl o fod yn un o'r 'Rhanbarthau Rhagoriaeth mewn Arloesedd' yn Ewrop gan y Comisiwn Ewropeaidd, ac mae'n gartref i Ganolfan Ymchwil Karlsruhe fawreddog. Mae'r ddinas wedi datblygu'n brifddinas gyfansoddiadol ers iddi ennill y teitl 'Canolfan y Gyfraith' pan sefydlwyd y Llys Cyfiawnder Ffederal ym 1950. Mae hefyd yn ganolfan sefydledig ar gyfer ffeiriau masnach ac arddangosfeydd ac yn ymfalchïo mewn Canolfan Gyngresol ac Arddangos drawiadol.
Trefeillio Blaenafon
Mae Blaenafon wedi mwynhau trefeilliad llwyddiannus iawn â Coutras yn Aquitane er 1985. Cynhelir teithiau cyfnewid blynyddol â'r dref hyfryd hon sydd wedi'i lleoli 50 cilometr i'r gogledd o Bordeaux ac sydd â thua 7,000 o drigolion.
Mae Coutras yn agos iawn at ranbarthau gwin bydenwog St. Emillion, Pomerol, Bergerac ac, wrth gwrs Bordeaux ei hun. Mae arfordir yr Iwerydd yn hawdd ei gyrraedd mewn car, lle gall heicwyr dewr ddringo'r twyn tywod mwyaf yn y byd yn Arcachon.
Mae prif alwedigaethau'r rhanbarth yn gymysgedd o amaethyddiaeth - gwenith, ŷd, gwinllannau a diwydiannau ysgafn - cynhyrchodd Coutras y gwydr ar gyfer Stade de France ym Mharis.
Fel ym Mlaenafon, mae chwaraeon yn chwarae rhan bwysig ym mywyd Ffrainc ac mae hyn wedi arwain ar amrywiaeth o deithiau cyfnewid yn cynnwys timau chwaraeon. Fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw Coutras wedi cynhyrchu côr meibion, gan roi mantais amlwg i ni ynghyd â chyfleoedd i ni eu diddanu'n rheolaidd yn eu heglwysi prydferth.
Mae'r Gymdeithas Trefeillio yn cyfarfod yn fisol yn Neuadd y Gweithwyr ac mae bob amser croeso i aelodau newydd. Cynhelir digwyddiadau i godi arian trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys dawnsfeydd, sioeau ffasiwn, nosweithiau rasio ceffylau ac ati.
Trefeillio Pont-y-pŵl
Mae Pont-y-pŵl wedi'i threfeillio â thair tref yn Ewrop: Longjumeau yn Ffrainc er 1994, Bretten yn Yr Almaen ers 1994 a Condeixa ym Mhortiwgal er 1999. Yn unigryw, mae pob un o'r trefi hyn wedi'u threfeillio â'i gilydd a chynhelir cynadleddau blynyddol i drafod materion sy'n berthnasol i'r pedair tref.
Tref gosmopolitan yw Longjumeau sydd wedi'i lleoli i'r de o Baris ac sydd o fewn ei hardal gymudo. Dyma le y ganwyd y cyfansoddwr enwog, Adolphe Adam, a gyfansoddodd y bale 'Giselle'. Yn ystod y 19eg ganrif, roedd y dref yn arhosfan bwysig ar gyfer y post a oedd yn cael ei gludo yn ôl ac ymlaen i Baris mewn coets fawr, ac mae llawer o bethau yn y dref hyd heddiw i'ch atgoffa o hyn. Mae cymysgedd o amaethyddiaeth a diwydiant yn yr ardal ac mae'r cysylltiadau a phrifddinas Ffrainc yn weddol amlwg.
Mae Bretten yn swatio yng ngodrefryniau'r fforest ddu yn ne'r Almaen, heb fod yn bell o Stuttgart a Heidelburg yn y rhanbarth sy'n dwyn yr enw Karlsruhe. Mae'n dref hynafol o le'r oedd y diwygiwr mawr, Philip Melanchthon yn hanu. Bob blwyddyn ar ddechrau Gorffennaf, cynhelir gŵyl ganoloesol 'Peter and Paul Fest', lle mae pawb yn camu'n ôl 500 o flynyddoedd. Am y penwythnos cyfan, mae pob twll a chornel o'r dref yn cynnig croeso o'r 15fed ganrif. Mae pobl y dref yn gwisgo hen wisgoedd a chaiff gorymdeithiau o filisia eu gwylio gan gannoedd o bobl.
Mae Condeixa wedi'i lleoli hanner ffordd rhwng Lisbon ac Opoto ac mae'n dyddio'n ôl i'r cyfnod Rhufeinig. Mae adfeilion hynafol Conimbriga ond ychydig filltiroedd i ffwrdd ac mae gan ddinas gyfagos Coimbra un o'r prifysgolion hynaf yn Ewrop. Mae'r rhanbarth hwn o Bortiwgal yn enwog am ei gerameg a'i winllannau ffrwythlon.
Trefeillio Cwmbrân
Mae Cwmbrân wedi'i threfeillio â Bruschal yn Yr Almaen. Llofnodwyd y 'Bartneriaeth' drefeillio ym mis Hydref 1979 a dathlodd y ddwy dref 25 mlynedd y Bartneriaeth Drefeillio yn 2004. Mae perthynas ardderchog wedi'i hadeiladu dros y blynyddoedd a meithriniwyd cyfeillgarwch hirsefydlog ar lefel unigol, sefydliadol a lefelau eraill. Mae dirprwyaethau'n ymweld â'i gilydd o dro i dro ac mae Cymdeithas Cyfeillion Bruschal [a Chyfeillion Cwmbrân yn Bruschal] yn meithrin ac yn annog cysylltiadau chwaraeon, diwylliannol a chymdeithasol. Mae Cynghorau Cymuned Cwmbrân a Chroesyceiliog a Llanyrafon yn cydweithio â'i gilydd ar lefel ddinesig.
Mae Bruschal yn gymysgedd diddorol o'r hen a'r newydd. Cafodd ei bomio'n drwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, felly mae canol y dref yn weddol fodern, ond mae ganddi fil o flynyddoedd o hanes. Bellach, mae'r dref yn ganolfan ddiwydiannol a masnachol, sydd wedi'i lleoli ar ymyl orllewinol bryniau esmwyth Kraichgau yn rhanbarth Baden Wurttemburg, yn agos at ddinasoedd enwog Heidelberg, Karlsruhe a Mannheim, i'r gogledd o'r Fforest Ddu enwog. Er gwaethaf ei delwedd fodern, caiff Bruschal ei hadnabod fel 'prifddinas asbaragws' Ewrop a hon yw'r brif dref yn Yr Almaen ar gyfer tyfu'r llysieuyn hwn.
Er gwaethaf y bomio, mae gan dref Bruschal balas Baróc a gerddi godidog o hyd (a ailadeiladwyd yn ofalus ar ôl y Rhyfel) sydd bellach yn lleoliadau a chefndiroedd poblogaidd ar gyfer digwyddiadau cerddorol a diwylliannol ac arddangosfeydd. Mae'r Palas yn cynnwys amgueddfa fwrdeistrefol ac un o'r casgliadau mwyaf a mwyaf amrywiol yn y byd o offerynnau cerdd mecanyddol. Ceir nifer o eglwysi â phensaernïaeth ddiddorol o fewn pellter cerdded hefyd. Er enghraifft, mae Eglwys Sant Pedr yn 'drysor' baróc ac yn cynnwys rhai o gampweithiau'r Rococo.
Mae canol tref Bruschal a'i rhodfannau'n fywiog a chynhelir dwy farchnad ffermwyr yr wythnos ar Sgwâr y Farchnad. Mae'r Bergenzentrum yng nghanol y dref yn adeilad modern a thrawiadol sy'n cynnwys theatr, lleoliad cynadledda a mannau cyhoeddus, llyfrgell, canolfan groeso a siopau, yn ogystal â bod yn lle gwych i fwyta a chymdeithasu. Mae Bruschal hefyd yn cynnwys ystod o gyfleusterau chwaraeon a nofio modern, clwb gleidio a pharasiwtio a chefn gwlad gwych i gerddwyr.
Mae gan bob un o'r pentrefi cyfagos gymeriad sylweddol ac mae gan dref fechan Buchenau, er enghraifft, stryd o'r enw 'Pontnewyddstrasse', a enwyd o ganlyniad i'r cysylltiadau a'r cyfeillgarwch cryf sydd wedi'u meithrin rhwng Côr Meibion Pontnewydd a Chôr Meibion Buchenau. Mae'r pentrefi eraill, fel Untergrombach, yn cynnwys enghreifftiau rhyfeddol o dai hanner coediog cynnar.
Mae Bruschal bob amser yn awyddus i ddathlu, yn enwedig hen draddodiadau. Trwy gydol y flwyddyn, cynhelir gwyliau amrywiol sy'n denu llawer o ymwelwyr. Mae Bruschal hefyd wedi'i threfeillio â nifer o drefi eraill yn Ewrop, gan gynnwys Saint-Menehould a Sainte-Marix-Aux-Mines yn Ffrainc a Volterra yn Yr Eidal.
Bydd awr o daith mewn car yn mynd ag ymwelwyr i leoedd fel afonydd y Rhein a Neckar, Strasbourg, Y Fforest Ddu, Speyer a rhai o'r rhanbarthau gwin gorau yn Yr Almaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig