Archaeoleg Gwirfoddol
Mae Gwirfoddoli yn brofiad gwerthfawr. Gallwch gwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, dechrau eich gyrfa, ac wrth gwrs, ennill teimlad mawr o foddhad wrth gefnogi a gofalu am dreftadaeth Torfaen.
Mae gwirfoddoli yn ymrwymiad, a wnaed am ddim, i brosiect neu brosiectau, yn Nhorfaen yn rheolaidd dros gyfnod parhaus o amser. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwirfoddoli rhwng 2-10 awr y mis. Mae gennym gyfleoedd ar gyfer pob oed, ac mewn amrywiaeth o wahanol feysydd.
Mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli o fewn Treftadaeth Torfaen. Pa bynnag ffordd y byddwch yn penderfynu i gymryd rhan, byddwch yn ymuno â grŵp cynyddol o bobl sy'n ymroddedig i gefnogi a chynnal treftadaeth leol Torfaen.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich profiad cymaint ag yr ydym ni yn mwynhau edrych ar ôl Treftadaeth Torfaen.
Gwirfoddoli Archaeolegol
Grŵp Archeolegol Blaenafon
Cangen o’r grŵp gwirfoddolwyr Tirlwedd Angof, mae'r grŵp hwn yn ymroddedig i ofalu am yr henebion o fewn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. Maent yn cyfarfod tua unwaith y mis ac yn cynnal cofnodion, monitro a gwaith cadwraeth, ac weithiau cloddio. Cysylltwch â'r grŵp drwy bwheg@hotmail.co.uk os hoffech fynychu gweithgaredd blasu neu ymuno â'r grŵp, neu i gael rhagor o wybodaeth am y grŵp ewch i dudalen Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon ar Facebook.
Cymdeithas Cwmbrân Hynafol
Mae Cymdeithas Cwmbrân Hynafol yn grwp archaeoleg sy'n arbenigo yn archaeoleg Cwmbrân, er eu bod yn edrych ymhellach. Fel aelod byddwch yn cael cyfleoedd i wirfoddoli mewn cloddiadau yn ogystal ag ymchwilio a mynychu sgyrsiau ar hanes lleol, a gefnogir yn aml gan brifysgol Cymru. Mae aelodaeth i’r gymdeithas hon yn costio: £5.00 y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth ewch i www.ancientcwmbran.co.uk
Gwirfoddoli yn yr Amgueddfa
Amgueddrfa Pont-y-pŵl
Mae gan Amgueddfa Pont-y-pwl amrywiaeth o wahanol gyfleoedd gwirfoddoli, megis Cynorthwyydd Llyfrgell a Cynorthwyydd Ymchwil, Chynorthwyydd Gweinyddol a Marchnata, a Chynorthwyydd Siop Goffi. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: 01495 752036 neu e-bostiwch: torfaenmuseum@outllook.com
Amgueddfa Cordell a Chymuned Blaenafon
Mae amgueddfa Cordell wastad yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i helpu agor a rhedeg yr amgueddfa. Mae'r oriau'n hyblyg, ac mae cyfleoedd i weithio gydag archifau, casgliadau a hanes teuluol. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch blaenavonmuseum@outlook.com
Gwirfoddoli yn yr Awyr Agored a Chadwraeth
Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon
Ydych chi'n frwdfrydig am dirwedd, bywyd gwyllt a hanes? Ydych chi’n mwynhau bod yn yr awyr agored? A oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â gweithgareddau ymarferol gyda phobl o'r un meddylfryd? Gallai ymuno â'r Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon fod y cyfle yr ydych wedi bod yn chwilio amdano! Mae amrywiaeth o dasgau rheolaidd sy'n helpu i warchod, gwella a hyrwyddo treftadaeth naturiol a diwylliannol gwerthfawr yr ardal yn cael eu cyflawni. Cysylltwch â’r grŵp ar bwheg@hotmail.co.uk os hoffech fynychu gweithgaredd blasu neu ymuno â'r grŵp, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen grŵp y Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon ar Facebook.
Cyfleoedd Eraill i Wirfoddoli’n lleol yn y maes Treftadaeth
Melin Llanyrafon
Mae Melin Llanyrafon yn chwilio am wirfoddolwyr i agor Melin o’r 17eg ganrif i'r cyhoedd. Gall yr ymrwymiad fod cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch. I wirfoddoli ar y safle hwn mae'n rhaid i chi fod yn aelod o "gyfeillion y Felin” sy'n costio £5.00 y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Marion Davies - E-bost: marmill@marmill321.plus.com
Cynorthwywyr Addysg Treftadaeth y Byd
Mae Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn chwilio am bobl sy'n hoffi gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu a chynorthwyo'r gwaith o gyflawni'r rhaglen Addysg Treftadaeth y Byd newydd. Mae'r rôl hon yn destun archwiliad cofnod troseddol a geirda canolwyr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ashleigh Taylor, Swyddog Datblygu Treftadaeth Cymunedol - E-bost: ashleigh.taylor@torfaen.gov.uk
Gwirfoddoli i Ieuenctid
Llysgenhadon Treftadaeth y Byd
Mae Llysgenhadon Treftadaeth y Byd yn gynllun newydd sy'n hyfforddi pobl ifanc i ofalu am a chynrychioli Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon trwy gyflwyno gweithdai rhyngweithiol, gan weithio gyda phartneriaid i gyflawni prosiectau a thrwy waith cadwraeth ymarferol. Os ydych yn 11 -25 oed ac â diddordeb, cysylltwch â Ashleigh Taylor ar ashleigh.taylor@torfaen.gov.uk
Lleoliadau Gwaith
Os ydych dros 18 oed ac â diddordeb mewn lleoliad gwaith mewn Treftadaeth, cysylltwch â'r Swyddog Treftadaeth a all wneud cynnig unigryw wedi ei theilwra i chi.
Diwygiwyd Diwethaf: 15/02/2022
Nôl i’r Brig