Strategaeth Iechyd Medwl
Mae partneriaid yng Ngwent wedi cydweithio dros y 2 flynedd ddiwethaf i ddatblygu strategaeth integredig ar gyfer iechyd meddwl ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Lansiwyd y strategaeth yn ffurfiol ar 1 Chwefror 2013 ac mae iddi 8 blaenoriaeth:
- Nod 1 - Cyfathrebu a gweithio ochr yn ochr â dienyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, staff a chymunedau, ar gynllunio, monitro a darparu gwasanaethau iechyd meddwl
- Nod 2 – Datblygu ystod eang o wasanaethau sy’n cefnogi lles y gymuned
- Nod 3 – Sicrhau bod ystod eang o opsiynau yn cael eu darparu yn nhermau lletyau
- Nod 4 - Sicrhau bod gwasanaethau yn y gymuned yn cynnig cefnogaeth, cyngor ac asesiad a thriniaeth o fewn yr amgylchedd yma lle bo angen.
- Nod 5 - Darparu gwasanaethau arbenigol sydd ar gael i bobl yn y man ac ar yr adeg y mae eu hangen arnynt.
- Nod 6 – Hwyluso ymateb priodol ar draws y sefydliadau tuag at anghenion pobl sydd â dementia.
- Nod 7 – Sicrhau y gwneir y defnydd gorau posibl o adnoddau iechyd meddwl.
- Nod 8 - Gweithio ar draws y 6 sefydliad i sefydlu cyfres o reolau a strwythur sydd yn cefnogi cydweithio, i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd meddwl rhagorol (llywodraethu).
Lawr lwythwch gopi o'r Strategaeth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymunedau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen yma.
Diwygiwyd Diwethaf: 23/12/2020
Nôl i’r Brig