Y Ddeddf Galluedd Meddyliol
Pob diwrnod, rydym yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'n bywydau. Gelwir y gallu i wneud penderfyniadau yn alluedd meddyliol. Gall pobl gael anawsterau wrth wneud rhai penderfyniadau naill ai trwy'r amser neu ar rai adegau. Gallai hyn fod oherwydd eu bod yn brin o alluedd meddyliol o ganlyniad i:
- Anabledd dysgu
- Salwch tebyg i dementia
- Problem iechyd meddwl
- Anaf a gafwyd i'r ymennydd
- Strôc
Cyflwynodd Deddf Galluedd Meddyliol 2005 broses i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol asesu a oes gan berson alluedd i benderfynu drostyn nhw eu hunain, a fframwaith i ddiogelu unigolion os ystyrir eu bod yn analluog. Gelwir y fframwaith hwnnw y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS).
Mae'r Ddeddf wedi ei hadolygu yn y cyfamser a bydd Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 yn dod i rym. Bydd yn cyflwyno fframwaith newydd y Trefniadau Diogelu Amddiffyn Rhyddid (TDARh).
Bydd y trefniadau diogelu newydd yn dal i amddiffyn yr unigolyn ond byddan nhw'n symleiddio'r broses.
Diwygiwyd Diwethaf: 19/05/2022
Nôl i’r Brig