Gwasanaeth Fferyllfa Anhwylderau Cyffredin
A oes angen i chi weld y meddyg heddiw? Os ydych yn meddwl:
- bod gennych anhwylder cyffredin ond nid ydych yn siŵr am eich symptomau na sut i’w trin gyda moddion dros y cownter
- A bod angen apwyntiad GIG arnoch
Erbyn hyn gallwch gael CYNGOR A THRINIAETH AM DDIM GAN Y GIG (lle bo angen) ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin gan eich fferyllwyr cymunedol lleol yn lle gweld y meddyg.
- Nid oes rhaid i chi wneud apwyntiad.
- Gallwch alw heibio ar amser sy’n addas i chi.
Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- Acne
- Tarwden y traed
- Poen yn y cefn (dwys)
- Brech yr ieir
- Briw gwefus
- Colig
- Llid yr amrannau
- Rhwymedd
- Croen sych
- Dolur rhydd
- Llygaid sych
- Clwy’r marchogion
- Clwy’r gwair
- Llau pen
- Diffyg traul/adlif
- Casewin
- Intertrigo/tarwden
- Briwiau yn y geg
- Brech cewyn
- Llindag yn y geg
- Clefyd crafu
- Dolur gwddf
- Torri dannedd
- Edeulyngyren
- Llindag gweiniol
- Ferwca
Lle nad yw'r GIG yn argymell meddyginiaeth, bydd y fferyllydd yn rhoi cyngor i chi ar sut i reoli'r cyflwr.
Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2019
Nôl i’r Brig