Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn
Nid hoff dymor pawb yw’r gaeaf, a heb amau, gall y tywydd oer a’r cyfle o ddal y ffliw beri gofid i bawb, yn enwedig y rheini yn y gymuned sydd yn fregus neu’n dioddef o gyflyrau hirdymor.
Cadw'n Gynnes
Wrth i ni heneiddio, mae ein cyrff yn ymateb yn wahanol i’r oerni a gall hyn ein gadael yn fwy bregus mewn tywydd oer. Ond, gydag ychydig o baratoi, a thrwy ddilyn rhai awgrymiadau syml, gallwch helpu eich hun i gadw’n iach, diogel ac mor gyffyrddus â phosibl y gaeaf yma.
Cadw'n Iach
Brechu yn erbyn y ffliw – Mae ffliw yn medru lladd, os ydych mewn perygl, dylech gael eich brechiad ffliw, sy’n rhad ac am ddim, bob blwyddyn.
Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â ‘Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn’ ac ystod eang o daflenni eraill sy’n ddefnyddiol ar gyfer iechyd a lles pobl hŷn, ar gael gan Age Cymru - Ffôn: 029 2043 1555.
Mae mwy o wybodaeth am y ffliw ar gael gan Galw Iechyd Cymru.
Diwygiwyd Diwethaf: 18/02/2022
Nôl i’r Brig