Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu (SenCom)

Mae’r timau yn SenCom yn darparu amrywiaeth eang o strategaethau cyngor ac ymyrraeth gan gynnwys dysgu. Rydym yn sefydliad sydd wedi ei ganoli ar y person ac mae ein lefelau ymyrraeth yn cyd-fynd ag anghenion newidiol plant a phobl ifanc unigol.

Fe’n lleolir gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac rydym yn gweithio’n rhanbarthol ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, colegau a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar.

Ein nod yw bod yn bartner gyda theuluoedd ac ysgolion i gynnwys plant yn llwyddiannus ym mhob agwedd o fywyd ysgol a sicrhau bod eu taith dysgu heb rwystrau i gynnydd.

Mae’r Gwasanaeth yn cynnwys tri thîm o dan arweiniad Pennaeth Gwasanaeth.

ComIT (Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu)

Mae ComIT yn wasanaeth sy’n gweithio gydag ysgolion ar draws pum awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru er mwyn galluogi ysgolion i adnabod plant a phobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu a’u cefnogi.

Mae sgiliau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu wrth wraidd pob agwedd ar ddysgu a datblygu, ac mae ymchwil yn dangos bod adnabod anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu’n gynnar, ac ymyrryd yn gynnar, yn gallu gwella canlyniadau academaidd a bywyd plant a phobl ifanc yn sylweddol.

Mae ComIT yn gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae’r tîm yn cynnwys Pennaeth y Gwasanaeth, Athrawon Ymgynghorol, Therapyddion Lleferydd ac Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chynorthwywyr Addysgu Arbenigol.

Mae ComIT yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant, yn ogystal â chymorth uniongyrchol i ddisgyblion, trwy ymateb graddedig.  Mae Cynorthwywyr Addysgu Arbenigol yn gweithio gyda disgyblion unigol a grwpiau bach mewn ysgolion ac yn cefnogi staff mewn ysgolion i ddarparu sesiynau dilynol gan ddefnyddio strategaethau ac adnoddau dysgu a argymhellir. 

Sut mae gwneud cais am gymorth?

Mae gan bob Awdurdod Lleol Arweinydd Proffesiynol ComIT penodol sy’n ymgynghori â Phennaeth Gwasanaeth ComIT er mwyn adnabod ysgolion i gael ymyrraeth, hyfforddiant a chefnogaeth gan ComIT.  Derbynnir ceisiadau am gymorth i ddisgyblion yn uniongyrchol gan ysgolion.

Os oes gennych bryderon am leferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn, cysylltwch â’r ysgol a siaradwch â’r athro dosbarth neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Gall staff yr ysgol ofyn i’w Harweinydd Proffesiynol ComIT am gyngor ac anfon Cais am Gyngor yn syth i ComIT.

Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar

Mae’r Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar yn wasanaeth i gynorthwyo plant a phobl ifanc y canfuwyd eu bod yn fyddar, i gyrraedd eu potensial yn llawn a chael y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cefnogi cynhwysiant mewn ysgolion lleol. Mae’r tîm yn cynnwys Athrawon Plant a Phobl Ifanc Byddar a Chynorthwywyr Dysgu profiadol.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc b/Byddar yn dilyn Fframwaith Cymhwyster y Bartneriaeth Genedlaethol Nam ar y Synhwyrau, teclyn ar gyfer Gwasanaethau Synhwyraidd sy’n ceisio llywio penderfyniadau wrth ddyrannu cefnogaeth i blant a phobl ifanc unigol. Mae cefnogaeth y gwasanaeth yn ddeinamig ac yn annog cysylltiadau agos â’r cartref, yr ysgol ac asiantaethau eraill. Ein bwriad yw adeiladu gallu mewn ysgolion i ddiwallu anghenion disgyblion a rhoi cefnogaeth â ffocws mewn ymateb i anghenion newidiol plant a phobl ifanc.

Sut mae atgyfeiriad yn cael ei wneud?

Mae mwyafrif helaeth y plant yn cael eu hatgyfeirio gan Iechyd, serch hynny gallwn hefyd roi cyngor a chyfeirio rhieni neu bobl broffesiynol sydd â phryderon am glyw plentyn neu berson ifanc. Ar ôl atgyfeiriad, cysylltir â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol i drafod y plentyn neu berson ifanc. Gellir trefnu ymweliad â’r ysgol i asesu’r disgybl a chasglu gwybodaeth bellach

Gwasanaeth Nam ar y Golwg

Bwriad y Gwasanaeth Nam ar y Golwg (GNG) yw sicrhau bod dewis yn cael ei gynnig i blant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr. Mae arbenigedd ac adnoddau ar gael i ysgolion i hwyluso mynediad cynhwysol llawn i ddysgu. Mae sgiliau byw’n annibynnol a mudoledd yn cael eu dysgu gan arbenigwyr cymhwysiad GNG. Sefydlir dulliau cydweithredol i gefnogi a diwallu pob angen.

Gall y GNG ddarparu amrywiaeth o wasanaethau mewn perthynas ag anghenion unigol. Rydym yn cydweithio gyda plant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg neu amlsynhwyraidd, rhieni, ysgolion, gwasanaethau addysgol/gyrfaoedd ac asiantaethau meddygol i fodloni anghenion unigol fel y’u nodir trwy’r broses asesu.

Sut caiff atgyfeiriad ei wneud?

Rydym yn croesawu ymholiadau at atgyfeiriadau gan unrhyw un sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc ac sydd â phryderon ynglŷn â nam ar y golwg neu amlsynhwyraidd posibl.

Gallwch atgyfeirio am asesiad gan Athro Golwg a/neu Nam Amlsynhwyraidd Cymwys yma.

Manylion Cyswllt

Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 7EJ

Ffôn: 01633 648888
E-bost: sencom@torfaen.gov.uk

Penaethiaid Gwasanaeth

Roger Thurlbeck - Pennaeth Gwasanaeth SenCom
E-bost: roger.thurlbeck@torfaen.gov.uk

Mary Jo Spearey & Rebecca Kelly - Pennaeth Gwasanaeth ComIT
E-bost: mary-jo.spearey@torfaen.gov.uk
E-bost: rebecca.kelly3@torfaen.gov.uk

Jo Plant - Pennaeth Y Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar
E-bost: joanne.plant@torfaen.gov.uk

Sarah Hughes - Pennaeth Gwasanaeth GNG
E-bost: sarah.hughes@torfaen.gov.uk

Sian Draper - Rheolwr Cymorth Busnes
E-bost: sian.draper@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 16/08/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

Nôl i’r Brig