Mae'r Swyddog Cymorth Awtistiaeth yn gweithio gyda rhieni, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â disgyblion sydd wedi derbyn diagnosis ASA
Bydd cynllun gofal iechyd yn nodi'r hyn y bydd y lleoliad yn ei wneud i helpu dysgwyr i reoli eu cyflwr meddygol a goresgyn unrhyw rwystrau i'w haddysg yn ogystal â beth i'w wneud mewn argyfwng, a nodi'r modd y caiff meddyginiaethau rheolaidd eu rhoi, neu'r cymorth gan y Gwasanaethau Iechyd
Mae gan bob ysgol a lleoliad blynyddoedd cynnar gymorth Seicolegydd Addysg penodol
Mae Swyddogion Cyswllt ADY yn rhoi cyngor ac arweiniad ar brosesau gwahardd i ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill
Mae gan Dorfaen Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda GEMS i godi cyflawniad a chyrhaeddiad dysgwyr du a lleiafrifoedd ethnig (BME) (4-19 oed)
Os yw rhiant yn dewis addysgu eu plentyn gartref, nhw sy'n gyfrifol am sicrhau eu bod yn derbyn addysg addas
Mae SNAP Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor annibynnol am ddim i rieni plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol
Mae Pont Fach yn rhan o Ymateb Graddedig i gefnogi disgyblion cynradd Cymhleth ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol Eithafol sy'n cael effaith sylweddol ar eu dysgu
Mae SenCom yn wasanaeth sy'n cynnwys tri thîm arbenigol. Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion lleferydd, iaith, cyfathrebu neu sydd â nam ar y clyw, y golwg neu nam amlsynhwyraidd
Mae gan Dorfaen athro arbenigol sy'n rhoi cyngor a chymorth i ysgolion i ddiwallu anghenion llythrennedd eu disgyblion
Mae gwasanaeth Allgymorth Torfaen yn darparu cymorth i bobl ifanc yn eu hysgolion a chymorth i staff sy'n gweithio gyda disgyblion
Mae Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Torfaen yn darparu cymorth yn yr ysgol i gynorthwyo disgyblion Sipsiwn Roma Teithwyr (SRT) a'u hysgolion