Rheoli Asbestos mewn Ysgolion
Mwyn naturiol yw asbestos a ddefnyddiwyd mewn nwyddau adeiladau rhwng 1950 a 2000 ac mae'n debygol o gael ei ganfod mewn unrhyw adeilad a adeiladwyd neu a adnewyddwyd yn ystod y cyfnod hwn.
Mae deunyddiau sy'n cynnwys asbestos yn gwbl ddiogel, cyn belled â'u bod yn cael eu cadw'n gyflawn ac mewn cyflwr da.
Er mwyn sicrhau hyn, mae gennym broses gaeth ar gyfer canfod, rheoli a monitro deunyddiau sy'n cynnwys asbestos a sicrhau y caiff unrhyw brosesau cynnal a chadw eu cwblhau yn unol â'r prosesau hyn er mwyn lleihau'r risg i gontractwyr a deiliaid.
Pan gaiff deunyddiau sy'n cynnwys asbestos eu canfod a'u bod mewn cyflwr da, y ffordd fwyaf diogel o ymdrin â nhw yw eu rheoli yn y fan a'r lle.
Nid yw'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynghori tynnu deunyddiau sy'n cynnwys asbestos sydd mewn cyflwr da, gan y bydd eu tynnu yn arwain at symud yr asbestos bob tro.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a'r Timau Rheoli Ysgolion yn cymryd eu cyfrifoldeb fel deiliaid dyletswydd o ddifrif ac yn sicrhau bod pob cam gweithredu perthnasol yn cydymffurfio â Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012 ac unrhyw arweiniad perthnasol arall.
Trefniadau Rheoli Asbestos
Yn unol â Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012, mae pob ysgol a adeiladwyd cyn 2000 wedi bod yn destun Arolwg Rheoli Asbestos, sy'n dangos lleoliad, math a chyflwr y deunyddiau sy'n cynnwys asbestos sy'n bresennol yn yr adeilad. Caiff cyflwr y deunyddiau hyn ei fonitro'n rheolaidd gan y safle ac o leiaf unwaith y flwyddyn gan syrfëwr proffesiynol.
Mae proses rheoli asbestos y Cyngor hefyd yn cynnwys:
- Cynlluniau Rheoli Asbestos ar gyfer pob safle sy'n amlinellu fel y mae angen rheoli'r deunyddiau sy'n cynnwys asbestos;
- arolygiadau blynyddol o unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos sydd wedi'u gadael yn eu lle;
- sicrhau bod unrhyw gontractwyr sy'n gwneud gwaith ar yr adeilad wedi cael hyfforddiant mewn Ymwybyddiaeth o Asbestos;
- sicrhau bod contractwyr/staff yn gwirio'r Cynllun Rheoli Asbestos os ydynt yn gweithio ar yr adeilad, gan leihau'r risg o aflonyddu ar unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos;
- hyfforddiant Rheolwr Safle ar gyfer staff allweddol (e.e. Pennaeth, Gofalwr);
- hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Asbestos gan hyfforddwr sydd wedi'i achredu gan Gymdeithas Hyfforddiant Asbestos y DU (UKATA) ar gyfer pob Gofalwr neu Reolwr Safle;
- mynediad at gyngor arbenigol ar Iechyd a Diogelwch a Rheoli Asbestos o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen;
- archwiliadau o brosesau rheoli asbestos;
- polisi rheoli contractwyr er mwyn sicrhau y caiff contractwyr addas a chymwys eu defnyddio i gwblhau unrhyw waith ar adeiladwaith adeiladau'r Cyngor.
Mae gan y Cyngor system ar gyfer cynllunio i gael gwared ag unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos, gan gynnwys y rhai a fydd yn cael eu heffeithio gan waith adnewyddu arfaethedig.
Pan fydd gwaith adnewyddu ardal wedi'i gynllunio, byddwn yn ystyried cael gwared ag unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos.
Mae gan yr ysgolion isod ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos sy'n cael eu rheoli gan gynllun rheoli asbestos.
Ysgolion Cynradd
- Meithrinfa Brynteg Abersychan
- Ysgol Gynradd Coed Efa
- Ysgol Gynradd Croesyceiliog
- Ysgol Gynradd stryd Siôr
- Greenmeadow Primary
- Ysgol Gynradd Griffithstown
- Ysgol Gynradd Eglwys Henllys yng nghymru
- Ysgol Gynradd Llanyrafon
- Ysgol Gynradd Maendy
- Ysgol Gynradd New Inn
- Ysgol Gynradd Gatholig Our Lady Of The Anglels
- Ysgol Gynradd Gymunedol Penygarn
- Ysgol Eglwys Ponthir yn Cymru
- Ysgol Gynradd Pontneydd
- Ysgol R C St Davids
- Ysgol Gynradd Fictoria
- Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands
- Ysgol Bryn Onnen
- Ysgol Gymraeg Cwmbran
- Ysgol Panteg (Kemys Fawr)
- Ysgol Panteg (Griffithstown)
Ysgolion Uwchradd
- Ysgol Abersychan
- Ysgol Croesyceiliog
- Cwmbran High School
- Ysgol Uwchradd Gatholig Sain Alban
- Ysgol Gorllewin Mynwy
- Ysgol Gyfyn Gwynllyw
Gall unrhyw un sydd eisiau rhagor o fanylion gysylltu â'r ysgol trwy'r broses gyfathrebu arferol.
Os hoffech wybod mwy am y gyfraith mewn perthynas â rheoli asbestos mewn ysgolion, ewch i'r adran cwestiynau cyffredinol ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig