Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)
Yn ôl y gyfraith, rhaid i Addysg Grefyddol cael ei haddysgu mewn ysgolion, ond nid yw'n rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Yn lle hynny, mae Addysg Grefyddol yn gyfrifoldeb lleol. Y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) sy'n goruchwylio Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd.
Ei brif swyddogaeth yn cynghori'r AALl ar faterion yn ymwneud ag addoli ar y cyd mewn ysgolion cymunedol ac mewn rhai ysgolion eraill, ynghyd â'r addysg grefyddol sy'n cael ei rhoi yn unol â'u Maes Llafur Cytûn.
Rôl gyffredinol CYSAG yw cefnogi darpariaeth effeithiol Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd o fewn ei gylch gwaith trwy:
- roi cyngor ar ddulliau o addysgu'r maes llafur cytûn ar gyfer Addysg Grefyddol, gan gynnwys y dewis o ddeunyddiau addysgu;
- rhoi cyngor i'r AALl ar ddarparu hyfforddiant i athrawon;
- monitro adroddiadau arolygu ar gyfer Addysg Grefyddol, addoli ar y cyd a datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol;
- ystyried cwynion y cyfeirir ato gan yr AALl am y modd y caiff Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd eu darparu a'u cyflwyno.
Diwygiwyd Diwethaf: 24/11/2022
Nôl i’r Brig