Plant mewn Adloniant
Rheoleiddiwyd dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.
Mae bosib y bydd angen trwydded perfformio a goruchwyliwr trwyddedig ar blant sy'n cymryd rhan mewn adloniant, fel: teledu, ffilm, y theatr, modelu, sioeau dawns, pantomeimiau, dramâu amatur, grwpiau cerddoriaeth a chwaraeon a thâl (boed yn amatur neu broffesiynol).
Diben y gofynion hyn yw sicrhau nad yw'r 'gwaith' yn niweidiol i les ac addysg y plentyn. Ceir trwyddedau plant drwy'r Awdurdod Lleol lle mae'r plentyn yn byw.
Pryd fydd angen trwydded berfformio ar blentyn?
- I bob plentyn o enedigaeth hyd at ddiwedd ei addysg orfodol. Diffinnir hyn fel y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd y mae’r plentyn yn dathlu ei ben-blwydd yn 16 oed
- Pan fydd rhaid talu i wylio perfformiad. Mae hyn yn berthnasol p'un a yw'r perfformwyr yn cael eu talu neu beidio
- Pan fydd y perfformiad yn digwydd mewn safleoedd trwyddedig neu glwb cofrestredig
- Pan fydd y perfformiad yn cael ei recordio i gael ei ddarlledu neu ei arddangos (er enghraifft, ar deledu, radio, ffilm, y we ac ati)
Beth yw’r eithriadau?
Mae'r eithriadau wedi'u nodi yn adran 37 (3) Deddf 1963, sydd yn berthnasol lle na gwnaed taliad yn gysylltiedig â pherfformiad y plentyn, boed i’r plentyn neu berson arall, ac eithrio treuliau. Nid yw'r eithriadau hyn yn berthnasol i blant sy’n derbyn tâl am chwaraeon neu fodelu am dâl. Dyma'r eithriadau:
Y rheol 4 diwrnod
Os nad yw plentyn wedi perfformio ar fwy na 3 diwrnod yn ystod y 6 mis diwethaf, ni fydd angen trwydded arno i berfformio ar y pedwerydd diwrnod. Unwaith y bydd plentyn wedi perfformio ar 4 diwrnod mewn cyfnod o 6 mis (mewn unrhyw berfformiad, hyd yn oed os oedd trwydded yn ei le ar unrhyw un o'r diwrnodau hynny neu os oedd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad a drefnwyd ar gyfer grŵp o blant) yna mae angen trwydded ar gyfer unrhyw berfformiadau pellach (oni bai bod un o'r eithriadau eraill y cyfeirir atynt isod yn berthnasol).
Os bydd plentyn yn absennol o'r ysgol, ni ellir dibynnu ar yr eithriad hwn: bydd angen trwydded.
Caniatâd ar gyfer Grŵp o Blant (BOPA)
Mewn ambell achos, gall person sy’n trefnu perfformiad sy'n cynnwys plant wneud cais am Ganiatâd ar gyfer Grŵp. Mae Caniatâd ar gyfer Grŵp yn cynnwys yr holl blant, yn hytrach na thrwyddedau unigol ar gyfer pob plentyn. Gan yr awdurdod lleol y mae’r disgresiwn i benderfynu rhoi caniatâd ar gyfer grŵp.
Gall unrhyw sefydliad wneud cais am Ganiatâd ar gyfer Grŵp, ar yr amod nad yw un o’r plant yn cael eu talu. Bydd yr awdurdod lleol yn gofyn am sicrwydd bod gan y corff bolisïau diogelu plant sy’n glir, cadarn a sefydledig. Dylid gwneud cais am Ganiatâd ar gyfer grŵp i'r awdurdod lleol yr ardal lle cynhelir y perfformiad a gall yr awdurdod lleol rhoi'r gymeradwyaeth hyd yn oed os nad yw'r plant sy'n cymryd rhan yn byw o fewn ei 'ffiniau. Os rhoddir ganiatâd, mae caniatâd ar gyfer grŵp yn dileu'r angen i wneud cais am drwydded unigol ar gyfer pob plentyn, mae'n cael ei roi i'r sefydliad sy'n gyfrifol am y perfformiad. Gall yr awdurdod osod amodau os ydynt yn teimlo bod eu hangen i sicrhau lles y plant dan sylw a gallai ddirymu’r caniatâd os nad yw'r rhain yn cael eu bodloni.
Os bydd plentyn yn absennol o'r ysgol, ni ellir dibynnu ar yr eithriad hwn: bydd angen trwydded.
Perfformiadau a drefnir gan Ysgol
Nid yw hyn yn cynnwys ysgolion drama neu ddawns. Mae’n rhaid iddynt hwy wneud cais am drwyddedau, lle bo angen.
Y Broses Ymgeisio
Mae'n ofyniad cyfreithiol i geisio trwydded pan fydd angen un a bydd unrhyw berson sy'n caniatáu i blentyn neu achosi iddo fynd yn groes i'r ddeddfwriaeth drwyddedu yn cael ei erlyn, p'un a yw'r plentyn yn perfformio o dan drwydded neu beidio, yr un yw'r ddyletswydd ofal .
Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded berfformio i blentyn neu eithrio, lawr lwythwch y ffurflen berthnasol isod:
Noder: Dylai'r ffurflen hon gael ei chwblhau a'i chyflwyno i'r awdurdod trwyddedu o leiaf 21 niwrnod cyn y perfformiad cyntaf neu'r gweithgaredd sy'n galw am y drwydded, neu fe all yr awdurdod trwyddedu fel arall, wrthod rhoi trwydded. Efallai na chaniateir trwyddedau os derbynnir y cais lai nag un ar hugain niwrnod cyn y dyddiad y mae angen y drwydded. Mae'n annhebygol y bydd trwydded yn cael ei chaniatáu os derbynnir y cais lai na phum niwrnod gwaith cyn y dyddiad y mae angen y drwydded.
Dogfennau Rheoliadau a Chanllawiau
Mae gwybodaeth bellach ar gael yn y dogfennau a ganlyn ar Reoliadau a Chyfarwyddyd:
Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan Rhwydwaith Cenedlaethol Cyflogi Plant ac Adloniant.
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â’r Gwasanaeth Lles Addysg ar EWS@torfaen.gov.uk.
Diwygiwyd Diwethaf: 22/11/2023
Nôl i’r Brig